Mae’n bosib fod cynllun treialu parcio dros mewn cartrefi modur a champerfaniau mewn meysydd parcio yn Sir Benfro o dan fygythiad, wedi iddo gael ei wrthod mewn cyfarfod.

Fis Chwefror, cefnogodd aelodau o Gabinet Cyngor Sir Penfro y cynnig ar gyfer y cynllun peilot ‘Pembs Stop’ mewn pedwar maes parcio, sef Traeth y Gogledd yn Ninbych-y-Pysgod, Rhos Wdig yn Wdig, Townsmoor yn Arberth, a Ffordd y Gorllewin yn Noc Penfro.

Bydd ardaloedd prawf ‘Pembs Stop’ yn gweithredu drwy gydol y flwyddyn am £10 y noson, a bydd y cyfnod prawf yn para deunaw mis ac yn dechrau ym mis Gorffennaf.

Bydd modd aros hyd at ddwy noson yn yr ardaloedd peilot.

Cafodd ei bwysleisio nad oedd gan y cynllun fwriad i greu ‘meysydd gwersylla’, ac mae rhestr o’r meini prawf yn cynnwys dim poteli LPG na dodrefn i gael ei storio y tu allan, yn ogystal â dim gwastraff gwersylla na mannau ailgylchu sy’n cael eu darparu.

Sylw cenedlaethol

Derbyniodd y cynllun peilot sylw cenedlaethol, gyda thrafodaeth ar raglen BBC Radio Wales.

Ond mae busnesau lleol yn dweud y bydd y cynigion yn niweidio Sir Benfro.

Daeth un ymateb gan Phil Davies, perchennog Gwersyll Carafanau a Chartrefi Modur Fferm Hungerford ger Loveston.

“Pe bai’r arbrawf deunaw mis yn parhau, bydd y gwymp yn achosi i nifer golli eu swyddi o fewn y diwydiant, achos does dim llawer o fusnesau yn gallu goroesi cwymp dros dro,” meddai.

Byddai menter ‘Stop Penfro’ hefyd yn rhoi baich ychwanegol ar wasanaethau presennol, gyda nifer yn defnyddio toiledau cyhoeddus i gael gwared ar wastraff, yn ôl Phil Davies.

Mae grŵp diwydiant twristiaeth swyddogol Sir Benfro, Croeso Sir Benfro, hefyd wedi lleisio’u pryderon ynglŷn â’r cynllun.

Fe alwodd y Cynghorydd Di Clements, arweinydd Grŵp Ceidwadol y Cyngor, yn llwyddiannus i’r mater gael ei anfon ymlaen at bwyllgor craffu polisi a chyn benderfyniad y Cyngor i’w drafod ar Ebrill 9.

Yn ddiweddarach, daeth argymhelliad na ddylai’r Cabinet barhau â’r cynllun.

‘Sefyllfa anghyffredin’

Roedd sefyllfa anghyffredin yn y cyfarfod, wrth i Lafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru i gyd wrthod y cynllun.

Un aelod o’r pwyllgor oedd y Cynghorydd Llafur Marc Tierney, cynghorydd ward tref Arberth.

Dywed mai “ymateb cymysg” oedd i’r cynllun yn y dref, gan ychwanegu bod y materion ynghylch capasiti maes parcio Townsmoor yn gwneud y cynllun peilot yn anymarferol yno.

“Fel yr aelod lleol dros ward Arberth Drefol, rwy’n gofyn i Arberth gael ei ddileu o’r cynllun peilot hwn,” meddai.

Diddordeb busnes

Roedd Michael Williams, Cynghorydd Plaid Cymru yn Ninbych-y-pysgod, hefyd yn erbyn y cynllun peilot yn ei dref.

“Dydw i wir ddim yn gweld yr angen i gorff cyhoeddus sefydlu cyfleuster sy’n groes i fuddiannau busnes,” meddai.

“Roeddwn wedi meddwl y byddai ymgynghoriad gyda’r ardaloedd peilot wedi ei gynnal hyd yn oed, ac mae’n glymblaid prin fod y Ceidwadwyr, Llafur a Phlaid Cymru yn gytûn â hyn; rwy’n teimlo’n gryf iawn y byddai’n gam yn ôl yn sicr yn fy ward i.”

Daeth gwrthwynebiad cryf i’r cynllun hefyd gan y Cynghorydd Annibynnol Viv Stoddart, oedd wedi rhybuddio y gallai achos llys olygu bod y parcio dros nos yn “gwreiddio” ac yn anodd ei ddadwneud hyd yn oed.

“Mae’r busnes twristiaeth mewn cyflwr bregus, faint o’r cwmnïau bach hyn fydd yn goroesi?” meddai.

“Maen nhw wedi buddsoddi yn eu busnesau, a dyma ni’n cystadlu â nhw, sydd ddim yn rhoi dim chwarae teg.

“Os ydym am gefnogi’r economi leol, cefnogwch y gweithredwyr lleol; mae eich angen chi ar y diwydiant twristiaeth, a gall y galw gael ei lenwi gan safleoedd lleol.

“Yn bersonol, hoffwn i’r holl brosiect fynd yn ôl i’r Cabinet; mae hwn yn brosiect anghywir, mae’n hollol anghywir, a dylem wrthod hyn.”

Un llais cefnogol oedd y Cynghorydd Pat Davies, oedd yn teimlo y gallai’r cynllun weithio yn ei hardal ei hun yn Wdig.

‘Croesawu’

“Mae’n sioc i mi ymuno â’r ‘glymblaid anghyffredin’, rydym wedi anghofio’n llwyr beth yw pwynt llywodraeth leol; yma rydym yn cystadlu â busnesau lleol yr ydym yn eu cefnogi trwy ddulliau eraill,” meddai Aled Thomas, y Cynghorydd Ceidwadol.

“Beth nesaf?

“A fyddwn ni’n buddsoddi mewn clwb nos yn Hwlffordd?”

Dywed y Cynghorydd Rhys Sinnett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, nad oedd y treial yn ymwneud â chynhyrchu incwm na chystadleuaeth, ond â “gwneud i bobol deimlo bod croeso iddyn nhw yn ein sir, yn hytrach na’u gwthio i ble yr ydym am iddyn nhw fynd”.

Awgryma fod rhyw “dir cyffredin” o ran y posibilrwydd o ddileu ardaloedd Arberth a Dinbych-y-pysgod o’r cynllun o blaid y ddwy ardal arall, gan ddilyn ar safbwyntiau cefnogol Alan Dennison, Cynghorydd Aberdaugleddau, wrth edrych ar Aberdaugleddau fel trydydd posibilrwydd.

Cafodd galwad y Cynghorydd Di Clements i’r mater ei chyfeirio’n ôl i’r Cabinet, gydag argymhelliad na chaiff symud yn ei blaen.

Cafodd ei chefnogi gan wyth pleidlais i dair.

Bydd y mater yn cael ei ystyried gan y Cabinet yn y dyfodol.

Pryderon am gynlluniau i ganiatáu aros dros nos mewn meysydd parcio

Bruce Sinclair, Gohebydd Democratiaeth Leol

“Rydym yn teimlo’n siomedig nad yw mater fel hwn, sydd â’r potensial i gael effeithiau enfawr ar drigolion a busnesau, wedi dod i’n sylw yn gynt.”