Mae rhaglen fuddsoddi arloesol wedi’i chyhoeddi heddiw (dydd Iau, Ebrill 11) i gefnogi twf economaidd cymoedd gogleddol y de-ddwyrain.

Mae’r fenter sy’n werth £50m yn rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac mae wedi’i chefnogi gan dimau awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Bydd y fenter yn cefnogi busnesau a phrosiectau sydd â’r gallu i gynyddu llewyrch a chryfhau economi’r rhanbarth.

Bydd y gronfa’n weithredol dros gyfnod o bum mlynedd, gan gefnogi busnesau lleol neu rai sy’n awyddus i symud i’r rhanbarth yn y tymor hir.

Bydd grantiau a buddsoddiadau rhwng £100,000 a £2m ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus ym meysydd isadeiledd, cysylltedd digidol a thwristiaeth, gan greu swyddi, adfywiad ecolegol a datgarboneiddio.

Mae gwerthoedd Menter y Cymoedd Gogledd yn cyd-fynd â Chynllun Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sef mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd a chynyddu twf ac arloesedd, datgarboneiddio’r amgylchedd erbyn 2050 a gwella isadeiledd corfforol a digidol.

‘Cyfle cyffrous’

Mae’r Cynghorydd Anthony Hunt, cadeirydd Pwyllgor Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, wedi croesawu’r cyllid, gan ddweud ei fod yn cynnig “cyfle cyffrous”.

“Gan adeiladu ar waith blaenorol yn y rhanbarth, bydd Menter y Cymoedd Gogleddol yn cynnig cyfle cyffrous i hybu buddsoddiad yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus mae mawr ei angen er mwyn creu swyddi ychwanegol, hybu llewyrch, meithrin gwytnwch cymunedol, a helpu i yrru’r economi gylchol mewn chwe awdurdod lleol,” meddai.