Mae angen i Barciau Cenedlaethol frwydro i adfer byd natur, yn ôl Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol, yn dilyn eu harolwg iechyd.
Mae Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol wedi cynnal arolwg iechyd o adferiad byd natur ym Mharciau Cenedlaethol Cymru, ac mae’r darganfyddiadau’n peri pryder.
Mae’r Parciau Cenedlaethol, sy’n dathlu 75 mlynedd ers sefydlu Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad, yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd a bywyd gwyllt gwerthfawr.
Mae gwiriad iechyd yr Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol, gafodd ei gynnal ledled Cymru a Lloegr, wedi darganfod bod byd natur yn brwydro i oroesi o ran cynefinoedd, rhywogaethau, ansawdd dŵr a throseddau bywyd gwyllt.
Ystadegau allweddol
Dim ond 19% o lynnoedd tri Pharc Cenedlaethol Cymru gyrhaeddodd statws cyffredinol da yn 2021, a dim ond 44% o afonydd.
Mae llai na chwarter (23%) o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Penodol (SoDdGA) Parciau Cenedlaethol Cymru mewn cyflwr ffafriol i natur.
Yn 2022, cafodd gwerth 7,367 o ddiwrnodau o garthffosiaeth o orlifiadau storm eu rhyddhau o fewn ffiniau Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr.
Y Parciau Cenedlaethol sydd wedi’u heffeithio waethaf, yn ôl oriau o ollyngiadau, yw Dartmoor, Eryri, Ardal y Llynnoedd, South Downs a’r Yorkshire Dales.
Mae gan dri Pharc Cenedlaethol Cymru y potensial i ddal 29,431,000 tunnell o garbon, sy’n cyfateb i deirgwaith cyfanswm allyriadau carbon deuocsid Cymru.
Ond yn 2019, amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru fod dros 70% o fawndiroedd Cymru wedi’u diraddio.
Diffyg adnoddau, diffyg data a diffyg pwerau sylweddol i wneud y newidiadau systemig sydd eu hangen sy’n achosi cyflwr natur wael yn ôl yr arolwg.
Yr adroddiad yn gosod sail
Wrth siarad â golwg360, dywed Rory Francis, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri eu bod yn “cefnogi’r arolwg” a bod natur Eryri yn anhygoel, gyda phobol yn rhyfeddu ati o bob cwr o’r byd.
Ond heb os, mae yna broblemau.
“Yn gyntaf, mae angen cydnabod fod byd natur mewn argyfwng, ond mae’n rhaid pwysleisio hefyd nad yw popeth o fewn rheolaeth awdurdodau’r Parciau,” meddai.
“Un o’r problemau hynny yn yr adroddiad oedd pa mor aml mae carthffosiaeth yn gorlifo i afonydd, ond yn anffodus nid yw’r mater yma o dan reolaeth y Parciau Cenedlaethol.
“Mae’r Parciau angen cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac mae yna gyfle gwych o’n blaenau rŵan i greu partneriaeth efo’r ffermwyr gan ddefnyddio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, i sicrhau bod ffermwyr ac awdurdodau’r Parciau yn gallu cydweithio i warchod y bywyd gwyllt prin sydd yno.
“Mae’r adroddiad yn gosod sail ar y blynyddoedd o waith yn gwarchod ac amddiffyn byd natur yn y Parciau Cenedlaethol, fel glendid y dŵr a bod gwarchodfeydd natur mewn cyflwr da.”
Angen gweithredu ar frys
Mae Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol, gyda chefnogaeth Eryri, Cyfeillion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn galw am weithredu ar frys i atal a gwrthdroi’r gostyngiadau hyn.
Mae’n hynod bwysig bod y Parciau Cenedlaethol yn gweithredu fel bod modd iddynt gyfrannu’n briodol at ymdrechion Gwledydd Prydain i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd.
Wrth ymateb i’r arolwg, dywed Iolo Williams, y naturiaethwr, cyflwynydd teledu bywyd gwyllt, awdur a chadwraethwr, fod “byd natur yn dal mewn argyfwng ar draws ein Parciau Cenedlaethol.
“Mae un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu o Gymru felly mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i warchod a gwella mannau gwyllt er mwyn i fywyd gwyllt ffynnu,” meddai.
“Mae Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol wedi amlinellu rhaglen weithredu, a rhaid inni sefyll gyda’n gilydd i gael Llywodraethau yn San Steffan a’r Senedd i weithredu.”
Prosiect cadarnhaol Ffermwyr yr Wnion, Eryri
Serch hynny, mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o astudiaethau achos cadarnhaol, lle mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn cefnogi prosiectau llwyddiannus sy’n gymorth i adfer cynefinoedd o fewn Parciau Cenedlaethol yng Nghymru.
Un o’r prosiectau hynny yw Ffermwyr yr Wnion yn Eryri, sef grŵp o ddeg fferm yn nalgylch Afon Wnion.
Nod y prosiect yw mynd i’r afael ar y cyd â materion lleol sy’n ymwneud â pherygl llifogydd ac ansawdd dŵr, yn ogystal â cheisio dod â buddion i fioamrywiaeth, pryfed peillio, ac ansawdd aer.
Mae nifer o byllau wedi’u creu ar draws y ffermydd yn ogystal â 7,725m o wrychoedd er mwyn helpu i atal erydiad y pridd, atal gwaddod a deunydd organig rhag cyrraedd y nentydd a’r afonydd, er mwyn gobeithio gwella ansawdd y dŵr.
Mae Ruth Bradshaw, Rheolwr Polisi ac Ymchwil Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol ac awdur yr arolwg iechyd, yn dweud bod yn rhaid mynd i’r afael â chyflwr y Parciau Cenedlaethol yn syth.
“Mae maint yr heriau rydym wedi’u nodi hefyd yn gofyn am gyfres o ddiwygiadau mawr, gyda’r nod o drawsnewid y ffordd y caiff y meysydd hyn eu rhedeg, er mwyn sicrhau bod llawer mwy o bwyslais ar adferiad byd natur yn yr holl benderfyniadau sy’n ymwneud â nhw,” meddai.
‘Cydnabod yr angen i wneud mwy’
“Mae Parciau Cenedlaethol Cymru yn cynrychioli ein tirweddau ar ei orau ac maen nhw’n enwog am eu harddwch naturiol, bywyd gwyllt amrywiol a threftadaeth ddiwylliannol unigryw,” meddai llefarydd ar ran y Parciau Cenedlaethol.
“Maen nhw’n cynnig mynediad i ardaloedd gwyrdd, yn mynd i’r afael â’r her newid hinsawdd, yn hyrwyddo cyfleoedd iechyd a lles, ac yn cefnogi ein cymunedau lleol.
“Rydym wedi ymrwymo i fod yn lleoliadau sydd â dyfodol cynaliadwy ble mae pobol a natur yn ffynnu.
“Mae Adroddiad Adfer Natur ‘Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol’ ar Ebrill 10 yn cynnig trosolwg o natur o fewn Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr trwy ddadansoddi data yn bennaf rhwng 2020 a 2022.
“Mae cymaint o gynnydd wedi’i wneud yma ers hynny, er mwyn gwella deallusrwydd o sut y gall ein Parciau Cenedlaethol weithredu ymhellach ar gyfer gwarchod natur, cymunedau a’r hinsawdd.
“Ond rydym hefyd yn cydnabod yr angen i wneud mwy.
“Serch hyn, rydym yn gwerthfawrogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i warchod ardaloedd fel ein Parciau Cenedlaethol yn enwedig adroddiad archwiliad dwfn bioamrywiaeth sy’n canolbwyntio ar ddiogelu o leiaf 30% o’r tir a 30% o’r môr erbyn 2030.
“Yn ogystal â hyn mae Deddfau Amgylchedd a Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru yn ddeddfwriaethau sy’n cynnig cefnogaeth i ardaloedd megis Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro.
“Mae dros 80,000 o bobol yn byw ac yn gweithio ym mharciau cenedlaethol Cymru, nifer ohonyn nhw ers cenedlaethau lu.
“Mae’n rhaid i’r cymunedau hyn gael cefnogaeth er mwyn gallu arwain ac ymgysylltu ar adfer natur yn ogystal â chael mynediad at adnoddau i greu economïau sy’n seiliedig ar natur er mwyn i ardaloedd gwledig allu ffynnu.”