Mae adroddiad gan Cushman a Wakefield yn dangos bod 94.4% o fyfyrwyr mewn 74 o sefydliadau academaidd yn ceisio am dŷ yn ystod eu cyfnod yn fyfyrwyr.

Mae’r brifysgol yn gyfle i wneud atgofion, ac mae’r cyfle i fyw gyda ffrindiau mewn llety neu dai myfyrwyr yn gyfle hefyd i ennill rhywfaint o annibyniaeth a datblygu sgiliau bywyd pwysig.

Ond a yw dod o hyd i dŷ mor hawdd ag y mae’n ymddangos?

Mae anawsterau costau byw wedi dod o ganlyniad i ostyngiad sylweddol yng ngwerth benthyciadau cynnal a chadw, ac felly mae llawer o fyfyrwyr yn gorfod dibynnu ar swyddi rhan amser ochr yn ochr â’u hastudiaethau.

Y gost gyfartalog wythnosol yn y Deyrnas Unedig am lety myfyrwyr yw £166, gyda chost gyfartalog o £155 ar gyfer llety sector preifat, a fflat un ystafell wely yn costio £228.

Mae nifer o fyfyrwyr ledled y Deyrnas Unedig yn dewis astudio mewn lleoliadau rhatach, megis yng Nghymru, lle maen nhw’n gallu arbed dros £2,000 o gymharu â Llundain, er enghraifft.

Ond awgryma’r Sefydliad ar gyfer Astudiaethau Cyllidol fod nifer cynyddol y myfyrwyr sy’n mynd i’r brifysgol yn debygol o arafu yn 2024/2025.

Anawsterau

Yn ôl ymchwil newydd gan y cwmni eiddo CBRE, mae angen 350,000 o welyau newydd i ddiwallu anghenion myfyrwyr.

Ym Mhrifysgol Bryste, er enghraifft, mae myfyrwyr yn cael eu gosod mewn llety dros awr i ffwrdd o’r campws, gyda rhai hyd yn oed yn cael eu gosod yng Nghaerfaddon.

Mae’n debyg fod prinder o ryw 16,600 o welyau i fyfyrwyr yn y ddinas.

Mae Maddie Darlington, myfyrwraig 21 oed ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi bod yn siarad â golwg360 am ei phrofiadau tebyg yn y brifddinas.

Yno, mae angen dros 13,000 o welyau ar gyfer myfyrwyr.

“Dwi’n ddigon ffodus fy mod i wastad wedi cael rhywle i fyw yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, ond mae hi yn rhwystredig pa mor gynnar mae’n rhaid edrych,” meddai.

“Os nad oes unrhyw le gyda chi erbyn mis Tachwedd, rydych chi mewn sefyllfa wael.”

Mae ffactorau eraill yn cyfrannu at sicrhau rhywle i fyw yn y brifysgol, hefyd, er enghraifft dydy landlordiaid ddim yn awyddus i dderbyn grwpiau o’r un rhyw, yn enwedig grwpiau o fechgyn.

Mae grwpiau mawr yn gyffredinol yn anoddach i’w lletya hefyd.

Esgeulustod a diffyg gofal gan landlordiaid

Dydy hi ddim yn gyfrinach fod nifer fawr o dai myfyrwyr wedi’u hesgeuluso o ran gofal gan landlordiaid chwaith.

Er bod deddfau yn eu lle er mwyn gwarchod tenantiaid rhag diffyg gwasanaethau hanfodol, megis Deddf Gwarchod Rhag Dadfeddiant 1977, mae problemau’n codi o hyd o ran landlordiaid annheg.

Llwydni a lleithder yw dwy o’r problemau mwyaf cyffredin sy’n wynebu myfyrwyr, ac mae achosion lle bu’n rhaid i fyfyrwyr ofyn i’w landlordiaid osod peiriant i waredu ar leithder yn eu tai.

“Aeth fy ffrind i’r ysbyty, a wnaethon ni ddarganfod llwydni yn ei hysgyfaint,” meddai Sophia Crothall o Brifysgol Bryste wrth golwg360 am effeithiau ansawdd aer yn ei llety.

Ymhellach, mae llygod mawr yn peri peryglon iechyd i fyfyrwyr, gan eu bod nhw’n cludo afiechydion megis hantafeirws.

Dydy ymateb landlordiaid i broblemau o’r fath yn aml ddim yn ddigonol o ran y cymorth maen nhw’n ei gynnig, fel yr eglura myfyrwraig arall.

“Roedd rhaid i ni brynu ein trapiau llygod ein hunain, gan mai dim ond un oedd wedi’i gynnig gan y landlord, ac roedd hwnnw ar gyfer llygod mawr yn lle!” meddai Phoebe Leber, myfyrwraig 20 oed ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE), wrth golwg360.

“Pan wnaethon ni anfon e-bost atyn nhw ynghylch difrifoldeb cynyddol y sefyllfa, chawson ni ddim ateb.”

Sefyllfa anobeithiol, felly, i ganran fawr o fyfyrwyr o ystyried pa mor gostus yw dod o hyd i gartref ddiogel.