Mae bydwragedd yng Nghymru yn gweithio cannoedd o oriau ychwanegol yn ddi-dâl i sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth yn rhedeg yn ddiogel, yn ôl arolwg barn newydd.
Mae canlyniadau’r arolwg barn, sydd wedi’i gyhoeddi gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd, wedi datgelu bod mwy nag wyth ym mhob deg (83%) o fydwragedd yn gweithio oriau ychwanegol heb dâl dros gyfnod o wythnos yn unig.
Dywed dros hanner y bydwragedd (53%) yn yr arolwg barn eu bod nhw wedi gweithio pum awr ychwanegol yn ystod un wythnos ym mis Mawrth, tra bod bron i chwarter (21%) wedi gweithio hyd at ddeg awr ychwanegol yn ddi-dâl.
Sefyllfa “anghynaliadwy” ac “annheg”
Disgrifia Coleg Brenhinol y Bydwragedd y sefyllfa fel un “anghynaliadwy” a “hollol annheg”, yn enwedig gan fod bydwragedd a Gweithwyr Cymorth Mamolaeth yng Nghymru yn parhau i aros am eu dyfarniad cyflog.
“Mae’r canlyniadau’r arolwg barn yn peri cryn bryder, ac wedi dangos yn amlwg i ba raddau y mae gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru yn cael eu rhedeg yn rhy aml ar ewyllys da bydwragedd a Gweithwyr Cymorth Mamolaeth,” meddai Julie Richards, Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghymru.
“Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi ein haelodau wrth iddyn nhw ymdrechu i wella’r gofal maen nhw’n yn ei ddarparu yng Nghymru.
“Fodd bynnag, mae’n ymddangos nad yw gwerthfawrogi staff a thalu’n deg am yr hyn maen nhw’n ei wneud yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth.
“Yn syml, nid yw hyn yn ddigon da pan welwn adroddiad swyddogol ar ôl adroddiad swyddogol yn gwneud cysylltiad uniongyrchol rhwng lefelau staffio a diogelwch.
“Er bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, mae’n amlwg nad yw’n digwydd ar y cyflymder sydd ei angen er mwyn gwella diogelwch yng ngwasanaethau mamolaeth Cymru.”
Gwasanaethau staffio ddim yn ddiogel
Mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn dweud bod dros ddwy ran o dair o fydwragedd (67%) yn dweud nad ydyn nhw’n teimlo bod eu gwasanaethau wedi’u staffio’n ddiogel rhwng Mawrth 4-10 eleni.
Dywedodd 62% y llynedd eu bod nhw wedi ystyried gadael y proffesiwn oherwydd diffyg staffio diogel a phroblemau cyflogaeth.
Ychwanega Julie Richards fod “peidio â chael y nifer cywir o staff yn effeithio ar ddiogelwch ac ansawdd y gofal y gellir ei ddarparu”.
“Mae menywod, eu babanod, a theuluoedd yng Nghymru yn haeddu gwell ac mae’r rhai sy’n gweithio yn ein gwasanaethau mamolaeth yn haeddu cael eu cefnogi’n well i ddarparu’r gofal mwyaf diogel y gallan nhw,” meddai.
‘Rhoi stop ar brinder staff yn bosibl’
Yn gynharach eleni, dywedodd Coleg Brenhinol y Bydwragedd fod “rhoi stop ar brinder staff bydwreigiaeth yn bosibl”, ar ôl iddyn nhw gyhoeddi canllaw newydd sy’n cynnwys atebion cost isel o ran sut i wella amodau gwaith bydwragedd.
Canllaw yw hwn gafodd ei ddatblygu ar gyfer aelodau seneddol presennol ac aelodau’r dyfodol, i gynnig atebion i’r materion hynny sy’n wynebu Cymru a’r Deyrnas Unedig.
Ymateb y Llywodraeth
“Er gwaethaf y pwysau ar ein cyllideb, rydym wedi cynnal buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae prinder gweithwyr gofal iechyd drwyddi draw, ac rydym yn gweithio gyda byrddau iechyd i lenwi’r swyddi gwag hynny.
“Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wrthi’n datblygu Cynllun Gweithlu Amenedigol Strategol.
“Bydd y cynllun yn cwmpasu hyfforddi, recriwtio a chadw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a bydd yn gymorth i sicrhau bod gan Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru y gweithlu amenedigol cywir yn ei le, er mwyn heddiw ac ar gyfer darpariaeth gwasanaethau mamolaeth a newydd enedigol i’r dyfodol.
“Mae disgwyl i bob bwrdd iechyd yng Nghymru gael ei staffio i safonau Birthrate Plus, sy’n fodel asesu gaiff ei gydnabod yn genedlaethol ar gyfer staffio bydwreigiaeth.
“Rydym wedi cynnal lefel ein cyllideb addysg a hyfforddiant ar £281m eleni, ac ers 2017 mae lleoedd hyfforddiant bydwreigiaeth wedi cynyddu 41.8%
“Mae ein Cynllun Gweithredu Gweithlu Cenedlaethol yn nodi camau gweithredu ar gyfer sut y byddwn yn gwella recriwtio, cadw a lleihau dibyniaeth ar staff asiantaeth.”