Mae protein wedi datblygu o fod yn ffynhonnell bwysig o faeth i bobol sy’n gofalu am eu ffitrwydd, i fod yn un o eitemau cyntaf pobol gyffredin yn eu basgedi siopa.

Yn ôl Mintel, mae gan y Deyrnas Unedig y drydedd ganran uchaf o gynnyrch ‘protein uchel’ neu ‘brotein ychwanegol’ yn y byd, ar ôl y Ffindir ac Awstralia.

Yn ogystal, mae rhagamcanion yn awgrymu bod y farchnad ar gyfer cynhwysion protein ar fin tyfu i fwy na £37.6bn erbyn 2032.

Felly, beth sy’n ein denu ni fel gwlad at gynnyrch protein?

Yr apêl

Ai’r pecynnu hwylus, lliwgar neu’r ffaith fod dylanwadwyr ffitrwydd ar-lein yn rhuthro i ddod o hyd iddyn nhw?

Yr anfantais yw fod cynnyrch protein fel arfer dipyn yn fwy drud na bwydydd cyffredin, ond mae’n anodd dianc rhag ei bresenoldeb yn y siopau ac ar-lein.

Yn ôl adroddiad diweddar gan Brandwatch, cyrhaeddodd chwiliadau ar-lein am y term ‘protein uchel’ uchafbwynt ers pum mlynedd yn 2023, heb sôn am gynnydd yn y niferoedd sy’n siarad am gynnyrch ‘protein uchel’ ar-lein (32% yn fwy o gymharu â 2022).

Barn pobol ifanc

Un sydd wedi’i denu at gynnyrch protein yw Claudia Erichesen, myfyrwraig 20 oed.

“Dwi’n gwybod y byddai’r eitemau yn dod â fi’n agosach at fy amcanion ffitrwydd, hynny yw, i dyfu cyhyr,” meddai wrth golwg360 am yr hyn sy’n ei denu hi i brynu’r cynnyrch.

O ran eu hysbysebu nhw, dywed fod “cymaint o ddewis o ran bwyd rydych chi ei eisiau”.

“Oherwydd maen nhw ar gael yn y rhan fwyaf o arfarchnadoedd, dwi’n fwy tebygol o’u prynu nhw,” meddai.

Mae’n ymddangos, felly, bod strategaethau busnes yn llwyddo, ond mae hi hefyd yn cydnabod twyll yr hysbysebion.

“Sai’n credu bod llawer o gyfyngiadau o ran beth sy’n gallu cael eu labelu’n ‘brotein uchel’, felly dw i’n deall bod y labelu yn gallu bod yn gamarweiniol,” meddai.

Pa gynnyrch sydd â phrotein?

Mae cynnyrch protein yn amrywio o iogwrt i bwdinau, i uwd, a hyd yn oed bara.

Yn draddodiadol, mae protein wedi’i hyrwyddo’n benodol o fewn y diwydiant ffitrwydd ac ymarfer corff, ond mae’r gynulleidfa darged i’w gweld yn ehangu erbyn hyn.

Er enghraifft, mae M&S yn gwerthu eu cynnyrch protein nhw o dan yr arwyddair “rheoli’ch pwysau, cydbwyso’ch diet”.

Fel yr eglura Claudia Erichesen, mae bron pob math o fwyd ar gael ar ffurf cynnyrch ‘protein uchel’ yn y siopau.

Yn aml, mae’r siopau’n manteisio ar fwydydd sy’n draddodiadol ‘afiach’, a’u labelu nhw’n ‘ddewis cyflym, cyfleus ac iachach’.

Ond pa mor niweidiol yw’r neges, ac a ddylai siopau fod yn blaenoriaethu diogelwch eu cwsmeriaid dros estheteg?

Mae Helena Gibson-Moore, Gwyddonydd Maeth o Sefydliad Maeth Prydain, yn tawelu unrhyw bryderon am lefelau protein yn y Deyrnas Unedig.

Mae pawb yn wahanol, ac felly byddai disgwyl i’r lefelau protein sy’n cael eu hargymell amrywio o un person i’r llall.

I fenywod, er enghraifft, ar gyfartaledd dylai’r lefel fod rhwng 50-175g bob bydd.

Ond rhaid cofio bod pob math o ffactorau yn cyfrannu at hyn.

“Yn y Deyrnas Unedig, ar gyfartaledd, rydym yn bwyta mwy na digon o brotein, felly nid oes angen ychwanegu mwy ohoni,” meddai Helena Gibson-Moore.

“Ond mae’n bwysig cael ffynonellau gwahanol o brotein, gan gynnwys ffa, corbys ac wyau.”