Mae angen gwell cymorth i garcharorion sydd ag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), yn ôl astudiaeth newydd.
Mae’r astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Greenwich a Straen Trawmatig Cymru yn dangos bod carcharorion yng Nghymru’n derbyn gwahanol lefelau o gymorth.
Mae’n bosib fod carcharorion â PTSD a C-PTSD (Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth) yn cwympo drwy fylchau, gan nad ydy’r drefn sgrinio ac ymyrryd yn gyson ledled y wlad.
Er bod pob un o’r chwe charchar i ddynion yn darparu ymyraethau a phresgripsiynau ar gyfer PTSD, dim ond eu hanner nhw sy’n sgrinio am y cyflyrau.
Mae’r therapïau sy’n cael eu defnyddio i geisio trin carcharorion â PTSD yn amrywio o garchar i garchar hefyd.
Yn ôl y tîm o ymchwilwyr, mae hynny’n golygu nad ydy rhai yn cael y cymorth sydd ei hangen arnyn nhw.
“Mae Anhwylder Straen Wedi Trawma ac Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth yn gyffredin yn y carchar,” meddai Dr Natasha Kalebic, arweinydd yr astudiaeth yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.
“Mae’r ddau yn aml yn mynd heb eu canfod a’u trin, a hwyrach y bydd carcharorion sydd eisoes wedi dioddef trawma blaenorol yn cael eu trawmateiddio o’r newydd yn y carchar.
“Yn y pen draw, bydd hyn yn effeithio yn y pen draw weithiau ar sut mae carcharorion yn cael eu hadsefydlu yn ystod eu dedfryd yn y carchar a’r tebygolrwydd y byddan nhw’n aildroseddu yn y dyfodol.
“At ddibenion ein hymchwil, roedden ni eisiau deall sut mae carchardai ledled Cymru yn cefnogi carcharorion â straen trawmatig, os ydyn nhw’n mynd ati i sgrinio carcharorion o ran PTSD neu C-PTSD a pha ymyraethau sy’n cael eu cynnig.”
‘Rhyddhau gyda mwy o drawma’
Ychwanega Clare Crole-Rees, Seicolegydd Ymgynghorol a Chydymaith Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd, mai poblogaeth wedi’i thrawmateiddio ydy carcharorion, a’u bod nhw’n cael eu haildrawmateiddio yn y carchar yn aml.
“Mae ein hymchwil yn awgrymu bod rhai carcharorion yn bwrw eu dedfryd heb gymorth arbenigol – a’u bod o bosibl yn cael eu rhyddhau i’r gymuned gan ddioddef mwy o drawma,” meddai.
“Rydyn ni’n gwybod fod PTSD yn ffactor risg yn achos aildroseddu, ac felly mae ymyrraeth a thriniaeth briodol yn achos straen wedi trawma yn chwarae rhan bwysig wrth adsefydlu carcharorion yn ogystal â lleihau aildroseddu yn y dyfodol.”
Daeth yr ymchwil o hyd i nifer o rwystrau sy’n atal carcharorion rhag cael y gofal gorau, gan gynnwys lefelau staffio, adnoddau, a phrinder hyfforddiant.
‘Mater o bwys’
Mae’r tîm yn awgrymu datblygu llwybr PTSD a C-PTSD yn system y carchardai, gan gynnwys staff rheng flaen ac arbenigwyr i helpu i wella canfod a thrin y cyflwr.
“Mae anhwylder straen wedi trawma yn fater o bwys ymhlith pobol yn y carchar, ond yn hanesyddol nid yw gwasanaethau iechyd meddwl wedi cael digon o adnoddau i ddiwallu’r anghenion hyn,” meddai’r Athro Andrew Forrester, sydd hefyd o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.
“Felly mae’n bwysig deall darpariaeth bresennol y gwasanaeth yng ngharchardai Cymru, gan gynnwys yr amrywiadau yn y system, os ydyn ni eisiau symud yn ein blaenau a gwella’r gwasanaeth yn gyffredinol. Yr astudiaeth hon yw cam cyntaf y gwaith hwn.”