Mae hygyrchedd wrth deithio o gwmpas Cymru yn gallu bod yn “dwba lwcus”, yn ôl ymgyrchydd anableddau sydd â’r cyflwr spina bifida.

Dywed Catrin Atkins fod rhai mannau yng Nghymru, megis Caerdydd, wedi’u haddasu yn “dda iawn” yn gyffredinol, ond fod elfennau sy’n dal y brifddinas yn ôl.

Daw ei sylwadau wedi i ymchwil gan AgeCo Limited awgrymu bod dinasoedd Cymru ymhlith y rhai lleiaf hygyrch yn y Deyrnas Unedig.

“Yng Nghymru yn gyffredinol, mae yna rai llefydd rili da, a rhai sydd ddim cystal,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl mai beth sy’n gadael Cymru i lawr lot ydy’r pethau bach.”

Er mwyn ei chynorthwyo, mae Catrin Atkins yn dueddol o newid rhwng defnyddio ei chadair olwyn a’i ffyn.

“Mae Caerdydd yn gyffredinol yn hygyrch iawn, ond mewn rhai rhannau megis Heol yr Ais, mae’n gallu bod yn rili llithrig pan mae’n wlyb,” meddai.

“Felly ydy, mae o’n fflat, a phan mae’n sych mae’n champion, ond pan mae hi fymryn yn wlyb, mae’n stori wahanol.”

Ychwanega ei bod hi’n teimlo weithiau fod yna ddiffyg ymgynghori wedi bod â phobol sydd ag anableddau.

“Dw i’n ffeindio hynny’n gyffredinol ar draws Cymru, bod y bwriad yno ond dydyn nhw heb cweit daro’r nodyn,” meddai.

“Mae’n bechod.”

Dim y gorau, dim y gwaethaf

Mae Catrin Atkins eisoes wedi bod yn teithio ar draws Canada am dri mis.

Dywed mai’r un yw’r hanes dros yr Iwerydd hefyd, a bod hygyrchedd yn gallu amrywio o le i le yn y wlad.

Serch hynny, dywed ei bod wedi teimlo ar y cyfan fod Canada wedi cael ei haddasu’n well ar gyfer pobol ag anableddau.

“Dydw i ddim yn meddwl bod Cymru’r gwaethaf o ran dinasoedd, dw i’n meddwl bod Caerdydd lot fwy hygyrch na rhywle fel Paris neu Rufain,” meddai.

“Ond dydw i ddim yn meddwl ei fod o’r gorau chwaith, a dw i’n meddwl bod yna le i wella yn bendant.”

Mae hi hefyd yn teimlo bod agweddau pobol tuag at anableddau wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf, a bod pobol yn “lot mwy parod” i helpu erbyn hyn.

“Efallai deg i ugain mlynedd yn ôl, roedd o’n gallu bod dy fod di’n cael dy ystyried fel awkward os oeddet ti’n gofyn am addasiadau neu gymorth,” meddai.

“Ond mae pethau wedi gwella rŵan.”

Camargraffiadau o Gymru?

Yn ôl Catrin Atkins, mae’n bosib nad yw pobol o reidrwydd yn ystyried Cymru’n wlad hygyrch oherwydd ei natur wledig ac arfordirol.

“I ryw raddau, doedd o ddim yn arfer bod, ond rydyn ni wedi dod mor bell mewn lot o ffyrdd,” meddai.

“Dydy o ddim bob tro’n berffaith, ond dw i’n meddwl bod yna lot mwy o ystyried pobol anabl yn digwydd rŵan.

“Lot o’r amser, nid jyst yr addasiad sy’n achosi trafferth ond yr agweddau a’r ffordd o drin pobol ag anableddau.”

Ychwanega mai “ychydig iawn o bobol anabl fyddai jyst yn troi i fyny yn rhywle” heb wneud eu hymchwil ymlaen llaw.

“Fel unrhyw un ag anabledd, dw i’n siŵr, os wyt ti’n pasa dod i Gymru neu unrhyw wlad arall, rwyt ti’n gorfod gwneud dy waith ymchwil,” meddai.