Bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio gwaith ystadegol sy’n dangos y cynnydd sydd angen ei weld mewn addysg cyfrwng Cymraeg i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru’n ei dderbyn erbyn 2050.
Bydd yn cael ei lansio yn ystod sesiwn briffio yn y Senedd yr wythnos nesaf, gyda’r amcan o ddangos bod y nod Cymraeg 2050 yn “gwbl gyraeddadwy” gydag ewyllys digonol gan y Llywodraeth.
Daw’r lansiad rai misoedd cyn i’r Llywodraeth gyflwyno’r Bil Addysg Gymraeg i’r Senedd.
Pe bai’r Bil yn cael ei basio ar ei ffurf bresennol, byddai’n gosod nod statudol fod 50% o blant Cymru yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.
Fodd bynnag, mae Cymdeithas yr Iaith eisiau gweld y nod yn cael ei gynyddu i 100%.
Maen nhw wedi disgrifio’u targed fel un sydd yn “gwbl gyraeddadwy gydag ewyllys gwleidyddol a chyllido digonol”.
“Uchelgais gwbl gyraeddadwy”
Yn ystod y sesiwn briffio yn y Senedd ddydd Iau nesaf (Ebrill 18), sy’n cael ei noddi gan Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, bydd y mudiad yn lansio ‘Addysg Gymraeg i Bawb: Cyrraedd y Nod’.
Mae’r gwaith ymchwil ystadegol yn edrych ar y cynnydd sy’n rhaid ei weld ym mhob sir bob pum mlynedd er mwyn cyflawni nod y Gymdeithas.
Bydd y sesiwn yn cael ei gadeirio gan Toni Schiavone, cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.
“Mae’r Bil Addysg Gymraeg yn gyfle unigryw i Lywodraeth Cymru roi’r Gymraeg i bob plentyn sy’n byw yng Nghymru, ond mae perygl y bydd y cyfle’n cael ei fethu,” meddai.
Dywed hyd yn oed pe bai’r Bil yn cyrraedd ei dargedau ei hun, byddai hanner plant Cymru yn cael eu “hamddifadu” o hyd.
“Nid dyna uchelgais pobol Cymru,” meddai.
“Dylai bod gan bob plentyn yng Nghymru’r hawl i ddysgu’r Gymraeg yn rhugl, ac addysg cyfrwng Cymraeg yw’r unig ffordd o gyflawni hynny.
“Mae hi’n her enfawr ac mae angen ymdrech fawr i’w chyflawni, ond mae’r gwaith ystadegol rydym ar fin ei gyhoeddi yn dangos bod yr uchelgais yma’n gwbl gyraeddadwy gydag ewyllys gwleidyddol a chyllido digonol.”