Mae pobol yn meddwl mwy am arbed arian wrth deithio nag am yr amgylchedd, yn ôl asiant teithio.
Mae disgwyl y bydd bron i 64% o bobol gwledydd Prydain wedi bod ar wyliau tramor eleni erbyn diwedd mis Awst.
Yn ôl ymchwil gan Jersey Island Holidays y llynedd, roedd hi’n costio o leiaf £500 i ddau berson fynd am benwythnos i ffwrdd yn un o ddinasoedd y Deyrnas Unedig.
Er bod y pandemig wedi effeithio ar y diwydiant twristiaeth ac wedi arwain at gynnydd yn y niferoedd oedd yn penderfynu mynd ar wyliau yn agosach at adref, tybed ydy diwedd y cyfnodau clo wedi arwain at newid arall a mwy o bobol yn dymuno mynd dros dŵr?
Sbaen ydy’r lleoliad mwyaf poblogaidd gyda theithwyr o wledydd Prydain, medd Cymdeithas Asiantaethau Teithio Prydain, ac mae cynnydd wedi bod yn y niferoedd sy’n mynd i Dwrci’n ddiweddar hefyd.
Dydy’r awydd i fynd dramor ddim yn gyfyngedig i deuluoedd chwaith.
Mae’r niferoedd sy’n mynd ar eu gwyliau ar ben eu hunain wedi cynyddu o 6% yn 2011 i 16% yn 2023, yn ôl Cymdeithas Asiantaethau Teithio Prydain.
Gwyliau Dinas
Mae ymchwil Expedia yn dangos bod gwell gan deithwyr ymweld â dinasoedd a threfi na mannau mwy gwledig.
Yn ogystal, mae cynnydd o 20% wedi bod yn nifer y bobol sy’n aros mewn gwestai tair seren, all awgrymu bod pobol yn chwilio am wyliau dramor rhatach nawr.
Mewn dinasoedd, gan amlaf, mae mwy o opsiynau i rentu rhywle fel AirBnBs i aros, ac mae hedfan i ddinasoedd Ewrop yn gallu bod yn rhad – me’n bosib teithio i Amsterdam ac yn ôl am lai na £90, er enghraifft.
“Mae gwyliau dinas yn haws i lawer o bobol. Gallwch fynd gyda ffrindiau neu deulu, ac nid yw’n achosi straen fel byddai gwyliau mawr yn, yn enwedig os ydych yn teithio rhwng blociau gwaith,” meddai Sam Davies, asiant teithio o Abertawe, wrth golwg360.
Blaenoriaeth y cyhoedd ar hyn o bryd, meddai, yw costau gwyliau, yn hytrach na chynaliadwyedd eu taith.
“Er bod gwyliau dinas fel arfer yn golygu taith awyren fer, dw i’n deall y sgyrsiau ynglŷn â’r effeithion ar yr amgylchedd,” meddai.
“Y realiti yw, mae pobol, yn y cyfnod rydym yn byw ynddi, yn becso fwy am ba mor rhad yw ei daith, ac felly os ydyn nhw’n gallu cyrraedd Ffrainc am £40 yn lle £120, yn sicr dydyn nhw ddim yn edrych ar yr allyriadau carbon.”
Effaith negyddol?
Mae teithio o fewn Ewrop ar awyren 30 gwaith rhatach na chael trên, medd Greenpeace.
Ac yn ôl gwefan Concernergy, mae cwmnïau hedfan sy’n cynnig teithiau rhatach yn cael eu helw drwy gynyddu nifer y teithwyr sy’n hedfan.
Felly, yn naturiol, maen nhw’n hedfan yn fwy cyson, sy’n arwain at fwy o allyriadau carbon.
Yn syml, “nid oes y fath beth â hedfan yn wyrdd”, medd Nick Meynen, Swyddog Polisi Cyfiawnder Amgylcheddol ac Economaidd y Biwro Amgylcheddol Ewropeaidd.
Dylanwad y Pandemig
Effeithiodd y pandemig ar ddiwydiant twristiaeth yn sylweddol, ac arweiniodd y cyfnodau clo ledled y byd at ddirywiad o 49% mewn teithio a cholled o bron i £3.7m o gymharu â 2019.
Fodd bynnag, yn 2022, fe wnaeth Prydeinwyr 71m o ymweliadau tramor, o gymharu â 19.1m y flwyddyn flaenorol.
O ran sut mae’r pandemig wedi effeithio ar ei phersbectif ar deithio, dywed Ffion Morgan, 20 oed o Abertawe, wrth golwg360 fod y pandemig wedi ei hannog i “ymweld â chymaint o leoedd â phosibl, a manteisio ar unrhyw gyfle y gallaf eu cael”.
“Dw i’n teimlo fel fy mod wedi archwilio fy ardal leol eithaf dipyn erbyn hyn, felly nawr dw i am fentro allan a darganfod mannau newydd,” meddai.
“Pan mae’r cyfle’n cael ei gymryd oddi wrthych, rydych yn sylweddoli pa mor werthfawr yw teithio mewn gwirionedd.”