Bydd hen ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei throi’n hwb cymunedol, busnes a llesiant ac yn gaffi.
Roedd yr ysgol yn Llanybydder, sy’n dyddio o Oes Fictoria, ar gau am flynyddoedd cyn cael ei phrynu gan elusen Canolfan Gymuned Hen Ysgol Llanybydder yn 1997.
Cafodd campfa fechan ei hagor yno, ac roedd rhywfaint o ddigwyddiadau cymunedol yn cael eu cynnal yn yr adeilad.
Nawr, mae’r elusen wedi derbyn bron i £195,000 gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i foderneiddio’r adeilad, fydd yn cynnwys mannau gweithio ac yn cynnal gweithgareddau fel rhai ffitrwydd a ioga. Bydd y gampfa’n aros ar agor.
Fel rhan o’r newidiadau, bydd ‘caffi trwsio’ yn agor yno hefyd, sef gofod i wirfoddolwyr drwsio dillad, celfi ac eitemau traddodiadol, a chaffi traddodiadol yn gwerthu bwydydd fel paninis a chacennau.
Gallai digwyddiadau mwy fel dangosiadau o ffilmiau, bedyddiadau a the angladdau gael eu cynnal yn y brif neuadd.
“Mae’n beth bynnag mae’r gymuned eisiau,” eglura Nicola Doyle, un o ymddiriedolwyr Canolfan Gymuned Hen Ysgol Llanybydder.
“Mae gennym ni nifer o gynlluniau i’r lle.”
Dywed y byddai’r gwaith adnewyddu’n trio cynnal elfennau hanesyddol yr adeilad a chreu gofod “chwaethus” tu mewn. Bydd rheolwr canolfan newydd, Julia Davies, yn dechrau yno’r wythnos hon.
Cyllid ‘Deg Tref’
Fe wnaeth cabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin roi’r arian, sydd wedi dod yn bennaf o’u rhaglen Deg Tref sydd â’r nod o adfer trefi marchnad, mewn cyfarfod ddoe (Ebrill 15).
Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies bod cryn ymchwil wedi’i wneud, ac y byddai’r gwaith adnewyddu’n cael ei gwblhau cyn diwedd y flwyddyn.
Wrth sôn am y rhaglen Deg Tref a’r gyllideb o £1m sy’n mynd tua ato, dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny ei fod yn “falch iawn bod yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn trefi llai”.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n fendigedig bod hen ysgol y pentref yn cael ei hailddatblygu ar gyfer anghenion cymdeithasol a datblygiad economaidd,” meddai Denise Owen, Cynghorydd Llanybydder.
“Dw i’n llawn cyffro.”
Mae cynlluniau ar gyfer gardd gymunedol a rhandiroedd tu allan hefyd, meddai Nicola Doyle, ac mae arian ar wahân yn cael ei roi tuag at lwyfannu gŵyl werin Geltaidd yn Llanybydder.
“Fedra i weld hi’n bod yn un dda iawn,” ychwanega Nicola Doyle.
Yn y cyfamser, mae’r cabinet wedi rhoi £14,800 o gyllid Deg Tref i Gyngor Tref Castell Newydd Emlyn gefnogi digwyddiadau ieuenctid cenedlaethol British Cycling ar Fehefin 29 a 30.
Fe wnaeth y dref gynnal y rasys yn 2022 a 2023, a bydd yr arian yn talu am dentiau, system sain i drefnwyr digwyddiadau lleol a deunydd ar gyfer sgrin ryngweithiol y dref.
“Mae hyn yn helpu i roi’r dref a’r ardal ar y platfform cenedlaethol i’n hyrwyddo ni fel lleoliad i ymwelwyr, fydd yn dod â buddion economaidd,” meddai’r Cynghorydd Hazel Evans, maer y dref.