Heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 16) yw’r diwrnod olaf i gofrestru i bleidleisio ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru.

Amcangyfrifir bod tua 2.5 miliwn o bobol yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad, ond mae cymaint â 400,000 o bobol yng Nghymru naill ai wedi’u cofrestru’n anghywir neu heb eu cynnwys ar y gofrestr o gwbl.

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn atgoffa pleidleiswyr bod rhaid iddyn nhw gofrestru er mwyn sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed ar 2 Mai.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw hanner nos heno.

Bydd angen i bleidleiswyr hefyd ddangos ID ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio.

Mae rhestr o’r mathau o ID y byddan nhw’n ei dderbyn gael ar eu gwefan ac mae ID pleidleisiwr a chael am ddim i’r rhai nad oes ganddynt fath o ID ffotograffig sy’n cael ei dderbyn.

‘Dim ond pum munud y mae’n ei gymryd’

“Dim ond pobol sydd wedi cofrestru i bleidleisio all ddweud eu dweud yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd ar faterion sy’n bwysig i’w hardal heddlu,” meddai Rhydian Thomas, Pennaeth Comisiwn Etholiadol Cymru.

“Dim ond pum munud y mae’n ei gymryd.

“Mae hefyd yn hanfodol bod pleidleiswyr yn cofio dod ag ID ffotograffig i orsafoedd pleidleisio.

“Gall unrhyw un nad oes ganddo fath o ID a dderbynnir gwneud cais am ID pleidleisiwr am ddim hyd nes 24 Ebrill.”

I fod yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiadau mae’n rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig, neu’n ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad sy’n byw yng Nghymru, ac mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn.

Bydd angen i unrhyw un sydd wedi bod ar y gofrestr yn flaenorol ac sydd wedi symud cartref yn ddiweddar neu y mae eu manylion wedi newid gofrestru i bleidleisio eto.

Papur pleidleisio'n cael ei roi yn y blwch

“Ceisio torri cneuen â gordd” yw gorfod dangos cerdyn adnabod cyn pleidleisio

Catrin Lewis

Bydd rhaid i bobol Cymru ddangos dogfen adnabod ddilys er mwyn gallu pleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru ar Fai 2