Mae cyfres deledu newydd yn cael ei datblygu i gyflwyno’r Gymraeg i blant drwy gomedi.

Bydd Annibendod yn cael ei darlledu fis Ionawr 2025, a bydd y gyfres yn dilyn hynt a helynt Anni, “merch ddireidus, llawn hwyl, a hynod anniben”.

Mae’r gyfres yn ganlyniad i bartneriaeth rhwng Mudiad Meithrin, Cynyrchiadau Twt ac S4C.

Yn ôl S4C, bydd y gyfres yn apelio at wylwyr Cyw, rhwng dwy a phump oed, a phlant yng nghyfnod allweddol un a dau sy’n dysgu Cymraeg.

Dywed Sioned Geraint, Comisiynydd Cynnwys Plant a Dysgwyr S4C, ei bod hi wedi cael ei denu at y gyfres oherwydd ei fod yn “syniad gwreiddiol sydd yn gweithio ar ddwy lefel, gan gyfuno comedi a slapstic gyda phatrymau ieithyddol”.

“Wrth i S4C ymateb i’r targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n bwysig i ni gael cynnwys plant sy’n apelio at siaradwyr Cymraeg hyderus a rhai sy’n ddysgwyr fel ei gilydd, er mwyn gwneud y Gymraeg yn berthnasol,” meddai.

“Mae comedi yn gerbyd ardderchog i wneud hynny am ei fod yn gyfrwng mor weledol ac yn boblogaidd ymysg plant, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr i weld y penodau gorffenedig.”

‘Defnyddio pob cyfrwng’

Mae aelodau o staff Mudiad Meithrin sy’n arbenigo ar drochi iaith wedi bod yn cynghori ar batrymau iaith sy’n addas i blant sy’n gwylio Cyw a phlant hŷn sy’n dysgu Cymraeg, eglura Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin.

“Mae hi’n allweddol bwysig defnyddio pob cyfle a phob cyfrwng i gyflwyno’r Gymraeg i blant gan gofio fod comedi’n gallu denu cynulleidfa newydd,” meddai.

“Mae gan S4C a Mudiad Meithrin berthynas hir o gydweithio ac mae cywaith gyda chwmni cynhyrchu annibynnol ‘Cynyrchiadau Twt’ wedi bod yn brofiad newydd eto i ni fel sefydliad.”

Ychwanega Siwan Jobbins, Rheolwr-gyfarwyddwr Cynyrchiadau Twt, bod y comedi’n weledol gydag “iaith syml fydd yn, galluogi’r gwylwyr i ymgolli yn hwyl anturiaethau Anni, ei ffrindiau a’i bochdew, Bochau, wrth ymdrochi yn yr iaith”.

“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Mudiad Meithrin ar gynnwys ieithyddol y gyfres.”