Mae Crime Cymru, y gymdeithas i awduron trosedd, yn chwilio am nofelwyr ditectif Cymraeg newydd i ymgeisio am eu gwobr fawr flynyddol.

Mae nofelau ditectif neu iasoer yn arbennig o boblogaidd yn y Gymraeg fel y Saesneg erbyn hyn, ac ymysg yr enwau sy’n gysylltiedig â’r math yma o lyfrau mae John Elwyn Griffiths, Gwen Parrott, Llwyd Owen, a Myfanwy Alexander.

Mae ambell i awdur mwy traddodiadol, fel Sonia Edwards a Mared Lewis, bellach wedi troi eu llaw at y stori dditectif, a rhai ffigurau cyhoeddus yn cael eu denu at y genre yma.

Enillodd Alun Ffred Jones, y cyn-Weinidog Senedd, Wobr Goffa Daniel Owen y llynedd gyda’i nofel dditectif gyntaf, Gwynt y Dwyrain.

A dyma eich cyfle chi!

Mae Gwobr Nofel Gyntaf Crime Cymru yn agored i unrhyw awdur trosedd sydd heb gyhoeddi nofel o’r blaen, ac sydd ar hyn o bryd yn byw yng Nghymru.

Mae’r gystadleuaeth ar gyfer gwobr 2025 yn agored i geisiadau ers Mawrth 31, ac mae digon o amser gennych i gystadlu – Medi 3 yw’r dyddiad cau eleni.

Mae’r wobr yn cynnig categori ar wahân ar gyfer ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Rheolau a gwobrau

Dyma’r rheolau ar gyfer Gwobr Crime Cymru 2025 yn fras:

– I gystadlu, mae eisiau cyflwyno 5,000 gair cyntaf o nofel drosedd, gyda chrynodeb un dudalen yn amlinellu’r plot cyfan. Nid oes raid eich bod wedi cwblhau’r nofel pan fyddwch yn cyflwyno eich cais.

– Yr unig amod yw eich bod heb gyhoeddi nofel cyn cystadlu, naill ai drwy gyhoeddwr neu ar eich liwt eich hun. Rydych chi’n dal i fod yn gymwys os ydych wedi cyhoeddi cyfrol o gerddi, casgliad o storïau neu waith ffeithiol o’r blaen.

Fe fydd rhestr hir o ddeuddeg cais ym mhob iaith yn cael ei llunio ym mis Rhagfyr, a bydd rhestr fer o dri, yn y ddwy iaith, yn cael ei chyhoeddi ddechrau Mawrth 2025.

Fe fydd gwahoddiad i awduron y rhestrau byrion i seremoni wobrwyo yng Ngŵyl Crime Cymru yn Aberystwyth yn Ebrill 2025, lle caiff enwau’r enillwyr eu cyhoeddi.

Bydd enillwyr y ddwy iaith yn cael pecyn mentora gwerth £1,000 gydag ‘awdur trosedd llwyddiannus’.

Bydd awduron y rhestrau byrion hefyd yn cael dau docyn penwythnos am ddim ar gyfer Gŵyl Crime Cymru 2025, a chwrdd â nifer o awduron trosedd Prydain a phobol sy’n gweithio yn y diwydiant cyhoeddi.

Am restr gyflawn o’r rheolau ewch i wefan Crime Cymru a chlicio ar y tab ‘Gwobr Nofel Gyntaf’.

Yn ôl Crime Cymru, mae gan y gymdeithas dair prif amcan:

  • cefnogi awduron trosedd Cymraeg/Cymreig
  • helpu i feithrin awduron talentog newydd yng Nghymru
  • hyrwyddo Cymru a’i diwylliant, gyda’r pwyslais ar ysgrifennu trosedd, yn fyd-eang.

Gŵyl Crime Cymru 2024

Os hoffech rywfaint o ysbrydoliaeth, ewch i Ŵyl Crime Cymru 2024, sydd yn cael ei chynnal ar-lein rhwng Ebrill 26 a Mai 3.

Ar y rhaglen eleni mae rhai o awduron trosedd mwyaf poblogaidd gwledydd Prydain, er enghraifft Graham Bartlett, Sam Blake, Elly Griffiths, Vaseem Khan, Simon McCleave, Abir Mukherjee, Andrew Taylor, yn ogystal â rhestr awduron Crime Cymru ei hun.

I weld y rhaglen gyfan ewch i wefan Crime Cymru.