Mae’r 14 awdur sydd wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn rhaglen datblygu broffesiynol Llenyddiaeth Cymru wedi cael eu henwi.
Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen blwyddyn o hyd ar gyfer awduron sydd heb gynrychiolaeth deg yn y sector lenyddol.
Cafodd yr unigolion eu dewis gan banel asesu annibynnol yn dilyn galwad agored a ddenodd dros 100 o geisiadau.
Bydd pob awduron yn derbyn ysgoloriaeth o £3,000, ac yn y gorffennol mae’r arian wedi cefnogi awduron i gwrdd â darpar asiantau, mynychu gwyliau llenyddol, cefnogi cyflwyniadau i gystadlaethau llenyddol a mynychu encilion sgrifennu.
Ynghyd â hynny, bydd pob awdur yn cael eu paru â mentor o’u dewis, fydd yn cynnig adborth ac arweiniad pwrpasol.
Mae’r awduron sydd wedi’u dewis eleni wedi’u lleoli ledled Cymru, ac yn sgrifennu darnau ffeithiol greadigol, ffuglen, barddoniaeth a barddoniaeth lafar.
Yr awduron yw Azad Ali Malik, Ed Garland, Grace Quantock, Heledd Melangell, Janett Morgan Leo Drayton, Lesley James, Marged Elen Wiliam, Natasha Borton, Natasha Gauthier, Rudy Harries, Si Griffiths a Tia-zakura Camilleri.
Dros y flwyddyn nesaf byddan nhw hefyd yn cymryd rhan mewn cyrsiau preswyl, dosbarthiadau meistr ac ystafelloedd darllen wedi’u trefnu gan Lenyddiaeth Cymru.
‘Hyder i weithio’n llawrydd’
Ers y rownd gyntaf yn 2020, mae 40 o awduron wedi elwa o’r rhaglen.
“Ers cymryd rhan yn y rhaglen Cynrychioli Cymru, rwyf wedi cael yr hyder a’r cyfle i weithio fel awdur llawn amser, rhywbeth na allwn fod wedi breuddwydio amdano flwyddyn yn ôl,” meddai Bethany Handley.
Ychwanega Hammad Rind bod cymryd rhan yn y rhaglen wedi arwain at “dod o hyd i fwy o gyfleoedd ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg”.