Mae “dirfawr” angen sicrhau bod pobol Cymru yn ymwybodol na fyddan nhw’n cael pleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru fis nesaf os nad oes ganddyn nhw gerdyn adnabod dilys, yn ôl Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru.
Er mwyn gallu pleidleisio, bydd yn rhaid i’r rheiny sydd heb ddogfennau adnabod dilys yn barod, megis pasbort neu drwydded yrru, wneud cais am ID pleidleiswyr am ddim.
Fodd bynnag, bydd ceisiadau ar gyfer Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim, sef opsiwn amgen i ID traddodiadol ar gyfer etholiadau, yn cau ymhen llai na thair wythnos, ar Ebrill 24.
Y bwriad wrth orfod dangos ID i bleidleisio yw sicrhau nad yw pobol yn twyllo’r system.
Ond yn ôl Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, dim ond un person gafodd ei erlyn am dwyll yn ystod etholiad cyffredinol 2019, er i 58m o bobol bleidleisio.
Y pryder yw y bydd llawer mwy nag un person yn cael eu troi i ffwrdd o orsafoedd pleidleisio am nad oes ganddyn nhw ID dilys.
‘Mynd i’r afael â mater nad yw’n bodoli’
Mae Jess Blair, cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, yn credu bod y rheolau newydd fel “ceisio torri cneuen â gordd”.
“Rwy’n meddwl bod hwn yn bolisi sydd, mewn gwirionedd, yn mynd i’r afael â mater nad yw’n bodoli,” meddai wrth golwg360.
“Ac yn y pen draw, mae un bleidlais yn cael ei throi i ffwrdd yn un yn ormod.
“Mae’r syniad o etholiadau rhydd a theg mewn perygl gwirioneddol pan fo rhaid i bobol dalu i gael mynediad at y ffurf ID sy’n cael ei dderbyn yma.
“Os yw un pleidleisiwr yn cael ei droi i ffwrdd o orsaf bleidleisio, yna lluoswch hwnnw ar draws y wlad ac rydych chi’n edrych ar filoedd o bobol allai, o bosibl, gael eu gwrthod.”
Codi ymwybyddiaeth
Er bod Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn opsiwn amgen rhad ac am ddim ar gyfer y rheiny sydd heb gerdyn adnabod dilys, mae Jess Blair yn pryderu nad oes digon o bobol yn ymwybodol ohono.
“Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi rhyddhau ystadegau’n ddiweddar oedd yn dangos nad oedd 29% o bobol yn gwybod y gallent wneud cais am ID am ddim,” meddai.
“Felly, rwy’n meddwl bod cael y wybodaeth yna ma’s i’r cyhoedd yn allweddol mewn gwirionedd.”
Dywed Jess Blair mai dyma “un o’r newidiadau mwyaf i etholiadau’r Deyrnas Unedig ers amser hir iawn, iawn”.
“Mae’r polisi ID pleidleiswyr hwn yn cael ei gyflwyno yng Nghymru heb unrhyw gynlluniau peilot,” meddai.
“Mae’n cael ei gyflwyno am y tro cyntaf yn etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, ond bydd yn ei le wedyn ar gyfer etholiad cyffredinol disgwyliedig yn ddiweddarach eleni.
“Bydd yna ddegau o filoedd o bobol yng Nghymru heb y mathau o ID sydd yn dderbyniol o dan y polisi hwn.
“Ac mae angen dirfawr, rwy’n meddwl, i bobol fod yn ymwybodol bod y newid hwn ar droed, ac i bobol gael eu cefnogi i wneud cais cyn yr etholiadau ym mis Mai.”