Mae’r cerddor Lleuwen Steffan yn dweud bod gwerthu Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa yn Llanfyllin mewn arwerthiant “fel petai dim gwerth ar gyfoeth hanes Cymru”.

Ar drothwy’r arwerthiant ddydd Iau nesaf (Ebrill 11), mae’r arwerthwyr wedi gosod canllaw o £55,000 ar yr eglwys lle mae cofeb i’r emynwr Ann Griffiths yn y fynwent.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed Lleuwen Steffan nad oes sôn amdani yn yr hysbyseb i werthu’r eglwys, sydd wedi bod yn rhan ganolog o’r pentref ers y 1800au.

Bu’n rhaid i’r eglwys gau ei drysau yn 2020 oherwydd cyflwr yr adeilad a chostau ei hadnewyddu, a chafodd y plygain olaf ei gynnal yno fis Ionawr y flwyddyn honno.

Dydy’r gwerthiant ddim yn cynnwys tir yr eglwys hefyd, a bydd yr hawl i gynnal a chadw’r tir hwnnw’n cael ei roi, gan ddiogelu’r fynwent a mynediad i’r cyhoedd.

Ann Griffiths a’r plygain

“Does dim sôn amdani yn hysbyseb y gwerthwyr tai,” meddai Lleuwen Steffan ar X (Twitter gynt).

“Er iddi gael ei bedyddio, priodi a chladdu yno.

“Fel petai dim gwerth ar gyfoeth hanes Cymru.

“Does dim sôn am le’r eglwys hon yn nhraddodiad y plygain – lle cynhelid ‘y Blygien Fawr’ ar ddiwedd y tymor plygeiniau.

“Bu’n cynnal gwasanaethau plygain ers y drydedd ganrif ar ddeg.

“Dim gair am hyn wrth iddyn nhw drio gwerthu’r lle.

“Mae’n siarad cyfrolau am gyflwr y wlad.

“Mi wn i bod trigolion yr ardal wedi gofalu am yr eglwys a bod yna waith atgyweirio dibendraw, a phwy sy’n medru fforddio rhoi amser a phres i brosiect mor fawr â hwn?

“Does gen i ddim atebion.

“Dw i’n rhannu hyn efo chi fel hyn achos ’mod i wedi pendroni am y peth drwy’r nos a’r dydd, a rhaid i mi feddwl am rywbeth arall rŵan.

“Dw i’n gobeithio bydd gennych well syniadau na fi.”

‘Cymru ar ei gliniau’

Yn ôl Robat Idris, cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, mae angen gwarchod llefydd o’r fath.

“Mae Cymru ar ei gliniau,” meddai. “Ond nid fel y byddai Ann.

“Y llecyn hwn yn bwysicach o lawer i ni fel Cymry na’r tai bonedd fel Castell Penrhyn sy’n cael gofal a llond trol o arian.”

Deiseb

Bellach, mae deiseb wedi’i sefydlu er mwyn atal y gwerthiant.

“Rydym ni, y rhai sydd wedi arwyddo isod yn datgan ein hanfodlonrwydd gyda chynlluniau swyddogion Esgobaeth Llanelwy i werthu Eglwys Mihangel Sant,” medd y ddeiseb, sydd wedi’i sefydlu gan Osian Jones.

“Yn ein tyb ni, mae gan yr Eglwys hon le arbennig yn hanes Cymru.

“Yma y bu’r emynydd Ann Griffiths yn addoli. Ystyrir Ann Griffiths ymhlith y mwyaf o feirdd crefyddol Ewrop.

“Yma yn yr Eglwys y bu iddi gael ei bedyddio, a phriodi. Mae ei chorff yn parhau i orwedd ar dir yr Eglwys.

“Rydym yn grediniol, bod gan un o sefydliadau crefyddol mwyaf ein gwlad, sef Esgobaeth Llanelwy’r modd ariannol i atal y gwerthiant hwn.

“Gan fod yr arwerthiant yn digwydd mewn cwta wythnos (Ebrill 11 2024). Credwn nad oes digon o amser i gychwyn ymgyrch genedlaethol i arbed yr adeilad i’r genedl.

“Rydym felly’n datgan bod rhaid atal y gwerthiant. A hynny er mwyn darganfod ffurf a ffynonellau gwahanol i achub yr adeilad pwysig hwn.”

Tafod Arian: Lleuwen Steffan yn “rhoi llais newydd i leisiau’r gorffennol”

Alun Rhys Chivers

Bu’r cerddor, sy’n byw yn Llydaw, yn teithio o amgylch capeli’n cyflwyno Emynau Coll y Werin