Bydd tafarn y Vulcan yn croesawu eu cwsmeriaid cyntaf ers degawd fis nesaf.
Bydd yn agor ei drysau unwaith eto yn Sain Ffagan.
Cafodd ei hagor yn wreiddiol yn 1853 ar Adam Street, Newton yng nghalon cymuned Wyddelig Caerdydd, ond caeodd ei drysau yn 2012.
Bu ymgyrchu taer i arbed y dafarn, a chafodd yr adeilad ei gynnig yn ffurfiol i Amgueddfa Cymru gan y perchnogion bryd hynny.
Bywyd mewn tafarn yn 1915
Bydd y dafarn yn cael ei chyflwyno fel yr oedd hi yn 1915, oedd yn flwyddyn bwysig iawn i’r dafarn.
Yn ystod y flwyddyn honno, cafodd ei hadnewyddu wrth ychwanegu teils brown a gwyrdd ar flaen yr adeilad ac ailddylunio’r ystafelloedd.
Pan fydd hi’n agor i’r cyhoedd, bydd y Vulcan yn gwerthu cwrw, gan gynnwys detholiad o dair sgwner o gwrw megis Cwrw Vulcan a Chwrw Golau, sydd wedi’u bragu’n arbennig gan Glamorgan Brewing Co. ar y cyd ag Amgueddfa Cymru.
Bydd modd i ymwelwyr archebu bwrdd ymlaen llaw ar gyfer yr agoriad swyddogol.
Mewn datganiad, dywed Bethan Lewis, Pennaeth Amgueddfa Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, eu bod nhw’n “edrych ymlaen i agor Gwesty’r Vulcan ym mis Mai 2024, ac yn gwybod cymaint mae pobol wedi bod yn edrych ymlaen at weld y dafarn yn agor yn Sain Ffagan”, ac y bydd hi’n ychwanegiad gwych i’r casgliad o adeiladau hanesyddol.
“Mae ein tîm o arbenigwyr adeiladau hanesyddol a churaduron wedi bod yn gweithio’n galed i ail-greu’r dafarn yn 1915, a bydd hi’n bleser gweld ymwelwyr yn cael blas ar adeilad arbennig yn hanes Caerdydd,” meddai.
Y Vulcan yw’r adeilad diweddaraf o’r deugain a mwy sydd wedi cael eu hailgodi yn Sain Ffagan.
Mae’r amgueddfa’n yn gartref i adeiladau o bob cwr o Gymru, ac yn dangos sut fyddai pobol wedi byw, gweithio a mwynhau eu hamser hamdden dros y canrifoedd.
‘Ychwanegiad sylweddol i’r casgliad’
Ychwanega Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, fod Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn sefydliad sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n croesawu 500,000 o ymwelwyr y flwyddyn.
“Mae Gwesty’r Vulcan yn ychwanegiad sylweddol i’r casgliad ac yn rhoi cyfle i ni adrodd hanes Newtown a’r gymuned Wyddelig oedd yn byw yno,” meddai.
“Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at godi gwydraid i ddathlu agoriad y dafarn, a bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau diod o’n cwrw Vulcan ar y safle.”