Mae yna alwadau i ostwng y terfyn cyflymder ar hyd yr A470 drwy Lanelltyd yng Ngwynedd i 30m.y.a.
Heddiw (dydd Iau, Ebrill 4), bydd ymgyrchwyr yn y pentref ger Dolgellau yn cyfarfod ger stad Bro Cymer i alw ar Lywodraeth Cymru i ostwng y terfyn cyflymder.
Mae pryderon yn lleol fod cerbydau sy’n teithio ar y lôn yn gyrru’n rhy gyflym, a bod y terfyn cyflymder yn llawer rhy uchel ar hyn o bryd.
Yr A470 yw’r lôn hiraf yng Nghymru sy’n cysylltu’r de a’r gogledd, a chan fod rhan o’r lôn honno yn Llanelltyd yn syth, mae pryder yn lleol fod pobol yn goryrru arni.
Ar y cylchdro i’r de o Lanelltyd, lle mae’r ffordd yn mynd tuag at Bermo neu Ddolgellau, mae gyrwyr yn dueddol o oryrru tuag at y gogledd.
40m.y.a. yw’r terfyn cyflymder presennol, ond y gobaith i’w ei ostwng i 30m.y.a.
‘Cydymdeimlad llwyr gyda thrigolion Llanelltyd’
Yn mynychu’r cyfarfod am 11yb fydd Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd.
“Mae gennyf gydymdeimlad llwyr gyda thrigolion Llanelltyd, gyda’u galwadau i weld y traffig yn arafu oherwydd yn amlwg mae’n beryglus,” meddai wrth golwg360.
“Dydi’r broses [o newid y terfyniad cyflymder] ddim yn hwylus ar y cyfan, ond a dweud y gwir, dydi’r Llywodraeth heb gychwyn ar y broses honno oherwydd dydyn nhw ddim wedi cydnabod fod yna broblem yn bodoli.”
Galw ar y Llywodraeth a Chomisiynydd yr Heddlu
Fe wnaeth y Cyngor Cymuned lleol gysylltu â Lee Waters, y cyn-Weinidog Trafnidiaeth, am gymorth ond chawson nhw ddim ateb.
Gobaith Mabon ap Gwynfor yw cysylltu â’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth presennol, Ken Skates, ar ran y gymuned gan ofyn iddo ymyrryd a sicrhau bod rhywbeth yn cael ei wneud am y mater.
“Dw i’n galw ar y Llywodraeth i wrando ar bryderon y gymuned a chychwyn ar y broses mor fuan â phosibl er mwyn gweld bod camau i arafu’r traffig yn digwydd,” meddai wedyn.
“Dw i’n galw hefyd ar Gomisiynydd yr Heddlu i sicrhau bod yr heddlu yn rhoi’r adnoddau cywir i sicrhau bod ceir yn arafu ar ddarnau o’r ffordd fel hyn.
“Does dim heddlua yn y rhan yma o Lanelltyd.
“Dydyn ni heb weld yr Arrive Alive yma, er enghraifft, nac wedi gweld yr heddlu yn heddlua y ffordd, felly mae angen iddynt hwythau hefyd weithredu.”
‘Cymryd diogelwch o ddifrif’
“Rydym yn cymryd diogelwch ar y ffyrdd o ddifrif ac yn adolygu data’r heddlu ar wrthdrawiadau yn gyson er mwyn llywio’r angen am fesurau ychwanegol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw gynlluniau i ostwng y terfyn cyflymder ar y rhan hon o’r ffordd.
“Fodd bynnag, rydym wrthi’n adolygu canllawiau ar derfynau cyflymder lleol.”