Bydd gweithwyr trenau sy’n aelodau o’r undeb Aslef yn streicio dros y penwythnos, gan arwain at oedi i lawer o deithwyr yng Nghymru.
Ddydd Gwener (Ebrill 5), bydd gwasanaethau Avanti West Coast rhwng Caergybi, Bangor, Cyffordd Llandudno a Wrecsam yn cael eu gohirio.
Mae’r cwmni hefyd yn rhedeg gwasanaethau sy’n mynd mor bell â Llundain a Birmingham.
Bydd Great Western Railway, sy’n darparu gwasanaethau yn y de, hefyd yn streicio, fydd yn golygu y byddan nhw’n rhedeg gwasanaethau cyfyngedig iawn ddydd Sadwrn (Ebrill 6).
Fydd llawer o’r gwasanaethau trenau arferol ddim yn rhedeg yn ystod y streic.
Mae Avanti West Coast wedi rhybuddio y gallai’r newidiadau i’r amserlen arferol achosi oedi dros y dyddiau sy’n dilyn y streic hefyd, ac maen nhw wedi ymddiheuro ymlaen llaw i’w cwsmeriaid am hyn.
Er nad yw Trafnidiaeth Cymru yn un o’r darparwyr fydd yn streicio, maen nhw hefyd wedi rhybuddio y bydd y lleihad mewn gwasanaethau rheolaidd yn golygu y bydd eu gwasanaethau nhw fwy na thebyg yn brysurach na’r arfer.
Streiciau ledled y Deyrnas Unedig
Bydd streiciau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig o ddydd Iau (Ebrill 4) tan ddydd Sadwrn (6 Ebrill), gyda streic 48 awr arall ddydd Llun (Ebrill 8).
Daw’r streic o ganlyniad i anghydfod deuddeg mis dros amodau gweithio a swyddi aelodau’r undeb.
Dydy’r gyrwyr trenau heb weld cynnydd cyflog ers 2019, yn ôl Mick Whelan, ysgrifennydd cyffredinol Aslef.
“Mae gyrwyr trenau wedi pleidleisio dro ar ôl tro dros weithredu er mwyn ceisio sicrhau codiad cyflog,” meddai.
“Ni fyddai gyrwyr wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol dro ar ôl tro pe baent yn meddwl eu bod nhw wedi cael cynnig teg.”
Dywed llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod cynnig cyflog eisoes wedi ei sicrhau.
“Ar ôl datrys anghydfodau gyda’r holl undebau rheilffyrdd eraill, mae’r ysgrifennydd trafnidiaeth a’r gweinidog rheilffyrdd wedi sicrhau bod cynnig cyflog ar y bwrdd – gan fynd â chyflogau cyfartalog gyrwyr trenau o £60,000 i £65,000,” meddai.