Mae Prifysgol Abertawe a’r Llyfrgell Genedlaethol yn cynnig ysgoloriaeth drwy Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i ymchwilio i hanes Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd rhwng 1922 a 1972.

Bydd y prosiect yn dechrau ym mis Hydref dan oruchwyliaeth Dr Hannah Sams a Dr Tomás Irish o Brifysgol Abertawe, a Dr David Moore a Dr Douglas Jones o’r Llyfrgell Genedlaethol.

Bydd modd i’r ymgeisydd llwyddiannus astudio’n llawn amser am dair blynedd neu’n rhan amser am chwe blynedd.

Bob blwyddyn ers 1922, mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da wedi cael ei chreu yn enw plant Cymru a’i darlledu i’r byd.

Cafodd ei chreu’n wreiddiol fel ymateb i’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac i hybu heddwch rhyngwladol, gyda phlant a phobol ifanc ar draws y byd yn ymateb iddi.

Er gwaetha’i phwysigrwydd ers hanner canrif, dyma’r ymchwil trylwyr cyntaf i hanes y Neges.

Yr ymchwil

Bydd y gwaith ymchwil yn cael ei gwblhau ym Mhrifysgol Abertawe ac yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ar y cyd â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru.

Bydd yr ymchwil yn tynnu ar gasgliadau helaeth y Llyfrgell Genedlaethol er mwyn astudio hanner canrif o’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da, a sut y câi heddwch ei bortreadu yn wyneb gwrthdaro byd-eang, gan gwestiynu’r ddelwedd o bobol ifanc mewn cofnodion hanesyddol.

Bydd modd i’r ymgeisydd llwyddiannus gymryd rhan yng ngweithgareddau Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ac i dderbyn hyfforddiant gan Brifysgol Abertawe a Chonsortiwm CDP4 Diwylliant a Threftadaeth Cymru.

Rhaid bod gan ymgeiswyr radd 2:1 neu uwch, gan feddu ar radd Meistr neu fod yn barod i weithio tuag at y cymhwyster, yn ogystal â phrofiad proffesiynol perthnasol yn y maes.

Gall fod gan yr ymgeisydd llwyddiannus arbenigedd mewn unrhyw bwnc addas, gan gynnwys Hanes, Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Gymraeg, ac mae’n rhaid bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i ddarllen Cymraeg.