Mae uwch gynghorwyr yng Nghaerffili wedi cymeradwyo newidiadau mawr i ysgolion ledled y sir.

Mae ysgol uwchradd newydd, campws ysgol gynradd ddwyieithog, uno a chau ysgolion gam yn nes fel rhan o gynlluniau newydd sydd wedi’u cymeradwyo gan aelodau Cabinet y Cyngor ddydd Mercher, Ebrill 3.

Yn ardal Pengam, bydd rhieni a disgyblion yn cael dweud eu dweud yn fuan ar y cynllunio i uno Ysgol Lewis i Ferched ac Ysgol Lewis Pengam – yr ysgolion penodedig olaf ar gyfer bechgyn a merched ar wahân, yn ôl pob tebyg.

Ymgynghoriad cyhoeddus

Yn y cyfarfod, cytunodd aelodau’r Cabinet i lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ôl clywed bod y cynigion wedi’u cefnogi gan benaethiaid lleol.

Dangosodd adroddiad y Cyngor fod penaethiaid dwy ysgol Lewis, ynghyd â’u cydweithwyr yn Ysgol Uwchradd Heolddu ac Ysgol Idris Davies, yn cefnogi’r cynllun, gan ddweud y gellid “uno ac ailuno” teuluoedd.

Byddai uno ysgolion y bechgyn a’r merched yn “osgoi’r rhaniad mae rhai yn ei wynebu pan fo plant o’r un teulu yn cael eu rhannu’n unarddeg oed, o ganlyniad i drefniadau presennol yr ysgolion”, meddai’r penaethiaid.

Mae’r cynlluniau ar gyfer yr ardal yn awgrymu y bydd Ysgol Lewis i Ferched yn cau yn y pen draw ar ôl cyfnod o drawsnewid, ac fe allai hynny olygu adeiladu ysgol uwchradd newydd ar dir gyferbyn â safle presennol Ysgol Heolddu.

Fe wnaeth aelodau’r Cabinet gytuno hefyd i symud y cyfnod cais cynllunio ar gyfer campws dwyieithog newydd i Ysgol y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf yn Rhymni.

Mae ymgynghoriad diweddar wedi arwain at ddau wrthwynebiad i’r cynlluniau yn unig, fydd yn golygu symud y ddwy ysgol i un campws gwerth £17m, ond yn parhau i gael eu rhedeg ar wahân.

Dywed Carol Andrews, yr Aelod Cabinet dros Addysg, y byddai’r campws newydd yn gartref i “adeiladau cynaliadwy ar gyfer ysgolion sy’n rhannu cyfleusterau”.

Dywed Jamie Pritchard, dirprwy arweinydd y Cyngor, fod “buddsoddi mewn addysg” yn “rywbeth rydym yn teimlo’n angerddol yn ei gylch”.

Cau ysgolion

Ond roedd siom wrth i’r Cabinet gytuno i gau pen y mwdwl ar gau Ysgol Fabanod Cwm Glas yn Llanbradach, lle mae gostyngiad yn nifer y disgyblion yn golygu ei bod yn “her sylweddol” cadw’r ddysgl yn wastad o ran y gyllideb.

Mae penderfyniad aelodau’r Cabinet yn golygu y bydd Cwm Glas yn cau ei drysau am y tro olaf ar Orffennaf 20.