Bydd atyniad newydd o’r enw SCALE yn agor ar do Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ar Ebrill 29.
Mae’r atyniad yn rhan o bartneriaeth â Wire & Sky, arbenigwyr antur ac adeiladau sy’n gobeithio denu cynulleidfa newydd i’r adeilad sydd fwyaf enwog am fod yn gartref i dîm rygbi Cymru.
Un o’r gweithgareddau fydd yn dod o dan SCALE yw nyth 60 metr uwchben y stadiwm sy’n cynnig golygfeydd o’r ddinas.
Atyniad arall yw’r Wifren, sef gwifren zipline sy’n gwibio ar hyd nenfwd y stadiwm.
Gall y rheiny sydd yn hoffi adrenalin gymryd rhan yn y Gwyll, sy’n cynnig cyfle i neidio yn ôl i lawr o do’r stadiwm i’r ddaear.
Dywed Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, eu bod nhw wrth eu boddau’n gallu lansio’r atyniad i gyd-fynd â dathliadau 25 mlynedd Stadiwm Principality.
“Mae gallu cyfuno’r atyniadau newydd hyn a’r profiad o rannu diwylliant cyfoethog ein Stadiwm eiconig yn ddatblygiad cyffrous iawn,” meddai.
Tocynnau ar werth
Bydd tocynnau ar werth i’r cyhoedd heddiw (dydd Iau, Ebrill 4), gyda’r rhai rhataf yn costio £44 ar gyfer dringfa SCALE yn unig, neu mae modd cyfuno hwnnw a’r Gwyll a’r Wifren am £89.
Dywed Claire Jenkins, Rheolwr Cyffredinol SCALE, fod yr atyniad yn “dangos harddwch Caerdydd ar ei orau – a hynny o safbwynt newydd ac unigryw”.
“Os ydych eisiau profi chwistrelliad o adrenalin wrth fynd ar wifren wib ar draws y to – neu ollwng eich hun yn ofalus gyda rhaff yn ôl i’r llawr – gallwch wneud hynny,” meddai.
“Os ydych eisiau profi golygfeydd arbennig o’r ardal – mae modd gwneud hynny hefyd.
“Mae gan SCALE rywbeth arbennig i’w gynnig i bawb.”
Ychwanega Andy Broad, Rheolwr Gyfarwyddwr Wire & Sky, ei fod yn “hapus iawn” i ychwanegu SCALE at eu rhestr o atyniadau adrenalin yn y Deyrnas Unedig.
“Rydym wedi datblygu nifer o atyniadau antur mewn stadiymau fel Anfield a Tottenham Hotspur ac wrth ein boddau ein bod yn gallu ehangu’n darpariaeth ym Mhrifddinas Cymru,” meddai.
“Bydd SCALE yn bendant yn cynnig antur newydd a golwg newydd ar Gaerdydd i bawb fydd yn ddigon dewr i fentro.”