Mae cyn-Aelod o’r Senedd yn dweud nad oes ganddo ffydd yn y gwasanaeth, a’i fod e eisiau gweld hen achosion gafodd eu dirwyn i ben yn “annheg” yn ei dyb e, yn cael eu hailagor.
Neil McEvoy, arweinydd plaid Propel Cymru, oedd y chwythwr chwiban y tu ôl i waharddiad diweddar pennaeth ymchwiliadau Swyddfa Ombwdsmon Cymru, sydd bellach wedi ymddiswyddo.
Mae Sinead Cook yn destun ymchwiliad, ar ôl i gyfres o negeseuon “rhagfarnllyd” gafodd eu rhannu ar ei thudalen X (Twitter gynt) gael eu datgelu.
Roedd y negeseuon yn ymwneud â’r Ceidwadwyr a Propel Cymru yn bennaf.
Mae Neil McEvoy yn dweud ei fod am ysgrifennu at yr Ombwdsmon am nad oes ganddo “unrhyw ffydd” yn y gwasanaeth, ac mae eisiau gweld achosion mae’n credu sydd wedi eu “hwfftio” yn annheg yn cael eu hailagor.
“Mae’r bobol hyn wedi llygru ac yn mynd ati i ddinistrio democratiaeth Cymru,” meddai wrth golwg360.
Mae e hefyd eisiau gweld yr Ombwdsmon yn cael ei ddiddymu ac ymchwilydd gwasanaethau cyhoeddus etholedig yn ei le.
“Ond mae cafeat pwysig yn yr ystyr y dylai unrhyw un sy’n cael ei gyflwyno i fod yn ymchwilydd fod heb unrhyw gontract â gwleidyddiaeth bleidiol,” meddai.
“Fel y mae nawr, mae mwy o lygredd ym Mae Caerdydd nag yn San Steffan.”
‘Achosion difrifol’
Mae Neil McEvoy yn honni bod achosion oedd yn ymwneud â phynciau mor ddifrifol â marwolaeth wedi cael eu diddymu gan yr Ombwdsmon.
“Er enghraifft, roedd yna achos gydag aelod o Propel, lle bu farw ei anwylyd yn yr ysbyty,” meddai.
“Roedd yna amgylchiadau difrifol o gwmpas hynny, ond fe wfftiodd [Sinead Cook] yr ymchwiliad.
“Yn amlwg, roedd ein haelod wedi cynhyrfu’n fawr, ond dyma [Sinead Cook] yn dweud, ‘Os nad ydych chi’n hoffi hyn, ffoniwch y Samiriaid’.”
Mewn achos arall roedd yn ymdrin ag e, meddai, roedd nicotin dyn wedi cael ei gymryd i ffwrdd yn anghyfreithlon cyn iddo farw.
“Roedd yn dioddef o ddementia, a doedd ei ferch ddim yn cael ei weld,” meddai.
“Aeth [ei ferch] i’w dŷ un diwrnod, a chafodd ei rhwystro rhag mynd i mewn gan weithiwr cymdeithasol.
“Ac yna, yn y diwedd, cafodd ei thad ei roi mewn cartref gofal, a gwyddai [ei ferch] fod hynny yn groes i’w ddymuniadau.
“Ond yr hyn ddywedodd y cyngor oedd fod ei thad wedi arwyddo affidafid yn dweud nad oedd am ei gweld oherwydd bod eu perthynas wedi chwalu, a doedd hynny ddim yn wir.”
Dywedodd y ddynes fod £200,00 wedi diflannu o gynilion ei thad cyn iddo farw.
Yn ôl Neil McEvoy, gwnaeth y ferch gais i weld gwybodaeth yn dilyn ei farwolaeth a gwelodd fod ei thad wedi bod yn cerdded wardiau’r ysbyty’n crïo ac yn gweiddi am ei ferch.
“Nid yw’n mynd yn fwy difrifol na hynny,” meddai.
“Mae’n troi allan nad oedd affidafid nac unrhyw beth yn ysgrifenedig, felly ni ddylai fod mynediad wedi cael ei wrthod.”
Ymateb yr Ombwdsmon
Wrth ymateb, dywed Swyddfa Ombwdsmon Cymru na fyddan nhw’n gwneud sylw am achosion unigol.
Dywed y llefarydd y bydd datganiad pellach ar y mater hwn yr wythnos nesaf.