Mae Plaid Cymru eisiau galw San Steffan yn ôl ar unwaith, yn dilyn streiciau awyr Israel oedd wedi lladd saith o bobol, gan gynnwys tri gweithiwr cymorth o wledydd Prydain.

Mae’r Blaid hefyd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi’r gorau i werthu arfau i Israel, gan ddweud y byddai parhau i wneud hynny yn “cynorthwyo i ladd sifiliaid.”

Cafodd y tri dinesydd Prydeinig eu lladd ddydd Llun (Ebrill 1), ynghyd â dinasyddion o Awstralia, Gwlad Pwyl, dinesydd deuol America-Canada a dinesydd o Balesteina.

Roedden nhw i gyd yn Gaza fel gweithwyr cymorth i’r World Central Kitchen.

Yn ôl Plaid Cymru, roedd allforion amddiffyn y Deyrnas Unedig i Israel yn cyfateb i £42m yn 2022.

Ers 2008, mae’r Deyrnas Unedig wedi trwyddedu arfau gwerth dros £574m i Israel, yn ôl dadansoddiad o ddata allforio’r llywodraeth gan y grŵp Campaign Against Arms Trade, sy’n pwyso am derfyn ar fasnachu arfau’n fyd-eang.

‘Barbaraidd’

Dywed Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, mai “lladd barbaraidd” sy’n digwydd yn Gaza.

Mae dros 30,000 o sifiliaid hefyd wedi marw yno dros y chwe mis diwethaf.

“Rhaid i ni nawr weld y Senedd yn cael ei galw’n ôl ar unwaith i graffu ar y gefnogaeth barhaus i’r rhyfel hwn ac i werthiant arfau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r wrthblaid Lafur,” meddai.

“Dylai pob plaid wleidyddol sy’n cael ei chynrychioli yn San Steffan fod yn y siambr i ddwyn i gyfrif ymateb cyndyn y llywodraeth i’r dystiolaeth gynyddol fod gwladwriaeth Israel wedi galluogi lladd a thargedu pobol ddiniwed.”

Ychwanega fod yn rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi’r gorau i werthu arfau i Gaza ar unwaith.

Dod â gwerthiant i ben

Dywed Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, fod y sefyllfa bresennol “yn mynnu bod y Prif Weinidog [Rishi Sunak] yn dod i San Steffan heb oedi pellach”, er mwyn amlinellu ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ladd dinasyddion y Deyrnas Unedig.

Ychwanega fod angen galluogi aelodau seneddol i graffu ar yr ymateb hwn, a chaniatáu trafod a phleidleisio ar ddod â gwerthu arfau i Israel i ben.

“Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza ac Israel ers mis Hydref y llynedd, ac ynghyd â llawer o gydweithwyr yn Nhŷ’r Cyffredin, rydym wedi annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barhaus i wneud mwy i sicrhau’r cadoediad uniongyrchol hwnnw, gan gynnwys dod â gwerthiant arfau i Israel i ben,” meddai.

“Mae ein galwad i ddod â gwerthu arfau i Israel i ben wedi cael ei wrthod dro ar ôl tro gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Blaid Lafur, er gwaethaf y dystiolaeth ysgubol fod Israel yn torri cyfraith ryngwladol trwy ei bomio diwahân ar Gaza a’i chosb gyfunol o bobol Palesteina.”