Mae un o benaethiaid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y gogledd wedi datgelu bod yr ardal yn wynebu cynnydd enfawr yn nifer yr achosion o awtistiaeth, ADHD a chyflyrau niwroamrywiol eraill ers y pandemig Covid-19, gyda nifer y plant sy’n cael eu cyfeirio atyn nhw wedi dyblu.
Mae nifer yr achosion ar draws y gogledd wedi cynyddu o ryw 200 y mis i 400, sy’n golygu bod plant, rhieni a’r rhai sy’n aros am asesiad yn wynebu aros am fisoedd neu flynyddoedd cyn cael diagnosis.
Daw hyn ar ôl i nifer o rieni sy’n tybio bod eu plant yn awtistig neu’n niwroamrywiol gysylltu â’r Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol.
‘Heriau’
“Rydyn ni’n wynebu rhai heriau fel byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ledled y Deyrnas Unedig, wrth sicrhau mynediad amserol at asesiadau niwroddatblygiadol yn wyneb galw sylweddol gynyddol,” meddai Dr Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
“Cyn y pandemig Covid-19, byddai ein gwasanaeth niwroddatblygiadol yn derbyn oddeutu 200 o allgyfeiriadau bob mis.
“Yn ystod 2023, mae’r ffigwr hwnnw wedi cynyddu i bron i 400 bob mis.
“Yn anffodus, dydy hi ddim wedi bod yn bosib cynyddu ein capasiti clinigol i ateb y cynnydd hwn yn y galw.
“Mae’r galw am y gwasanaeth hwn yn mynd ymhell y tu hwnt i’r capasiti, ac rydym yn gwybod fod hon yn broblem genedlaethol, ac rydym yn parhau i fod yn rhagweithiol â’n partneriaid er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon ac i warchod y gwasanaeth at y dyfodol.
“Dydyn ni ddim yn tanbrisio pa mor anodd y gall yr amserau aros hyn fod i blant a’u teuluoedd, ac rydym yn parhau i wneud popeth fedrwn ni i leihau amserau aros.
“Dros y deunaw mis diwethaf, rydyn ni wedi bod yn cydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn dechrau cyflwyno’r Rhaglen Niwroamrywiaeth Genedlaethol.
“Fel rhan o’r rhaglen hon, mae gennym ni dîm yn ei le i edrych ar ffyrdd y gallwn ni foderneiddio ein gwasanaeth fel y gallwn ni wella profiadau cleifion a’u teuluoedd.
“Ar hyn o bryd, rydym yn treialu ffyrdd newydd o weithio i helpu i ffurfio ein model o gyflwyno gwasanaethau yn y dyfodol.
“Mae un o’r treialon yn golygu cydweithio â’n harweinwyr addysg yn un o’n hawdurdodau lleol i gefnogi pobol broffesiynol i’w galluogi nhw i gefnogi plant mae’n ymddangos bod ganddyn nhw anawsterau allai fod â chysylltiad â chyflwr niwroddatblygiadol, neu beidio.”
Mwy o gefnogaeth i rieni
Mae gan un fam yn y gogledd ddau o blant mae hi’n tybio bod ganddyn nhw awtistiaeth ac ADHD sydd heb gael diagnosis.
Mae hi’n beio hyn am gynnydd mewn “ymddygiad nad oes modd ei reoli”.
Mae hi’n awyddus i gael rhagor o gymorth a chefnogaeth i rieni plant sydd â chyflyrau niwroamrywiol, gan gredu y gallai rhwydwaith o gefnogaeth fod wedi gwarchod ei mab a’i merch yn well.
“Rydyn ni’n derbyn offerynnau rhianta,” meddai.
“Y broblem ydi mai’r offerynnau anghywir ydyn nhw ar gyfer y gwaith dan sylw.
“Dydyn nhw ddim yn edrych ar y plant, a dydyn nhw ddim yn eu hasesu nhw.
“Does dim mecanwaith i’n cefnogi.
“Dw i’n nabod dau o blant sydd ag awtistiaeth sydd wedi brwydro ers deng mlynedd i gael diagnosis, a dydy’r plant ddim hyd yn oed yn medru mynd i’r ysgol.
“Dydyn nhw ddim yn medru cadw eu lle yn yr ysgol.
“Dydy awr bob dydd ddim yn ddigon i anfon eich plentyn i’r ysgol.
“Dydy’r rhwydweithiau cefnogaeth ddim yno.
“Dydy hi ddim yn fater o wham-bam, cael diagnosis iddyn nhw.
“Y peth ydi beth sy’n digwydd nesaf.”