Bydd sesiwn adolygu ar gyfer y rhai sy’n dysgu Cernyweg yn cael ei chynnal yn Sir Benfro ym mis Mehefin.

Bob blwyddyn, mae arholiadau Cernyweg i Oedolion ar bob lefel.

Dewi Rhys-Jones sy’n cynnal y gwersi ar fferm Brithdir Mawr yn Nhrefdraeth, ac mae’n dweud bod tri dyn sy’n hanu o Gernyw yn dilyn y cwrs eleni.

“Dw i’n cynnal cwrs adolygu undydd iddyn nhw gael y cyfle i adolygu gwaith Lefel 1 cyn yr arholiad,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r cwrs yn digwydd ddydd Sadwrn, Mehefin 1, ac mae’r arholiad ddydd Sadwrn, Mehefin 15. Mae croeso i bobol eraill sy’n gwneud Lefel 1 Cernyweg ddod ar y cwrs hefyd.”

Cost y cwrs adolygu ym mis Mehefin yw £15, ac mae pris gostyngol ar gael o £7.50 hefyd.

Brithdir Mawr

Fferm yw Brithdir Mawr ger Trefdraeth yn Sir Benfro.

Ers degawdau bellach, bu’n gymuned i sawl teulu sy’n byw yno mewn ffordd werdd ac oddi ar y grid.

Maen nhw’n cynnal cyrsiau yno yn Y Lle Dysgu, gan gynnwys cyrsiau amgylcheddol ar sut i fyw’n wyrdd.

“Bob dydd Iau, dw i’n dysgu pedwar dosbarth iaith i oedolion yno – Cernyweg (Lefel 1), Gwyddeleg (Lefel 2), a dau ddosbarth Cymraeg (Lefel 1),” meddai Dewi Rhys-Jones.

“I gael mwy o fanylion, e-bostiwch brithdirmawrhc@gmail.com.”

Cwrs ysgrifennu Cymraeg

Yn y cyfamser, bydd cwrs ysgrifennu Cymraeg yn cael ei gynnal yno fis nesaf.

Mae’r cwrs, fydd yn cael ei gynnal ar Fai 4 ac yn costio £10, yn addas ar gyfer oedolion sydd eisiau ysgrifennu yn Gymraeg, ac fe fydd y diwrnod yn cynnwys cyfres o ymarferion ysgrifennu “fydd yn denu’r dychymyg”, medd Dewi Rhys-Jones.

“Mae’n addas i’r Cymry a dysgwyr (Lefel Uwch).”