Mae pennaeth ymchwilio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi camu o’i rôl, yn dilyn ymchwiliad i’w sylwadau ar ei thudalen X [Twitter gynt].

Daw ei hymddiswyddiad wedi iddi gael ei gwahardd o’i swydd, yn dilyn cyhuddiadau ei bod hi wedi gwneud sylwadau “gwrth-Geidwadol” a “rhagfarnllyd”.

Roedd hefyd wedi gwneud sylwadau beirniadol am blaid Propel Cymru.

Cyn iddi gamu o’i swydd neithiwr (nos Iau, Ebrill 4), roedd Sinead Cook wedi bod yn ei rôl ers bron i ddeng mlynedd.

Mae Sam Rowlands, llefarydd Llywodraeth Leol y Ceidwadwyr Cymreig, yn mynnu na ddylai’r ymddiswyddiad olygu bod y mater yn cael ei anghofio.

“Tra bod Ms Cook wedi rhoi’r gorau i’w rôl, nid yw hyn yn rhoi pàs i’r Ombwdsmon anwybyddu’r pryderon sydd wedi’u codi ynglŷn ag ymchwiliadau hanesyddol,” meddai.

“Rhaid i’r Ombwdsmon bori trwy achosion blaenorol i sicrhau bod ymchwiliadau wedi’u cynnal yn deg; fel arall, bydd pobol yn parhau i golli ffydd ac ymddiriedaeth mewn system sydd i fod i gynnal safonau.”

Ailagor achosion

Mae Neil McEvoy, arweinydd ar y blaid Propel Cymru, hefyd wedi galw i ddiddymu’r rôl gan ei ddisodli gydag ymchwilydd etholedig.

Mewn neges ar ei thudalen X, roedd Sinead Cook wedi beirniadu’r gwleidydd, gan ddweud y “cawson nhw [Propel Cymru] 600 o bleidleisiau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd 600 yn ormod, yn fy marn i”.

Roedd hi hefyd wedi cyfeirio at blaid Propel fel Repel.

Dywed Neil McEvoy fod y sefydliad “wedi llygru, ac yn mynd ati i ddinistrio democratiaeth Cymru”.

Ychwanega nad oes ganddo “unrhyw ffydd” yn y sefydliad wrth edrych tua’r dyfodol.

Er hynny, hoffai weld achosion mae’n honni y cawson nhw eu “hwfftio” gynt yn cael eu hailagor.

Dywed Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru eu bod nhw am wneud datganiad pellach ar y mater yr wythnos nesaf, ac na fyddan nhw’n gwneud sylw pellach yn y cyfamser.

Neil McEvoy

Neil McEvoy eisiau diddymu Ombwdsmon Cymru a’i ddisodli gydag ymchwilydd gwasanaethau cyhoeddus etholedig

Catrin Lewis

Mae wedi honni bod pennaeth ymchwiliadau swyddfa Ombwdsmon Cymru, sydd bellach o dan ymchwiliad, wedi diddymu achosion yn annheg