Mae Trafnidiaeth Cymru’n dweud eu bod nhw wedi cyflogi 22 yn fwy o yrwyr trên benywaidd yn ystod 2022 a 2023, gan helpu i leihau’r bwlch cyflog.

Mae bwlch cyflog canolrifol o 16.2% yn adran rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd, sy’n ostyngiad o 1.2% o gymharu â’r ffigwr cyn recriwtio “allweddol” er mwyn i gyfran y gweithwyr sydd ar bob lefel cyflog fod yn fwy cydradd.

Yn sgil y recriwtio, mae mwy o fenywod bellach ar gyflogau uwch – gyda’r ffigwr yn codi i 76 (9.3%) fis Ebrill y llynedd, o gymharu â 54 y mis Ebrill blaenorol.

Yn 2023, roedd menywod yn cyfrif am 42.9% o brentisiaid newydd Trafnidiaeth Cymru, i fyny o 14.3% y flwyddyn gynt.

‘Canolbwyntio ar wella lles menywod’

Dywed Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru, ei bod yn “falch iawn o gael adrodd bod ein bylchau cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau unwaith eto”.

“Mae menywod bellach yn cael eu cynrychioli’n well mewn swyddi ar gyflogau uwch ac mae’r ddau sefydliad wedi cynyddu cyfran y menywod sy’n gweithio iddyn nhw,” meddai.

“Erbyn hyn, mae mwy o fenywod yn cael eu cynrychioli mewn rolau uwch arweinwyr a gyrwyr trenau ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y menywod sy’n cael dyrchafiad yn Trafnidiaeth Cymru [o fewn yr adran rheilffordd].”

Fodd bynnag, dywed fod y newid wedi bod yn un “anodd”.

“Rydym wedi gwneud cynnydd trwy fuddsoddi mewn hyfforddiant arweinyddiaeth menywod yn Trafnidiaeth Cymru,” meddai.

“Rydyn ni’n gweithio gydag undebau llafur i sicrhau bod mwy o fenywod yn dod yn yrwyr trenau a pheirianwyr.

“Rydyn ni’n canolbwyntio ar wella lles menywod trwy weithdai menopos a chefnogi gofalwyr yn well ac rydym yn adeiladu rhwydweithiau ehangach ar draws y diwydiant trwy fentrau fel Menywod mewn Trafnidiaeth.”

Dros y flwyddyn nesaf, mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud eu bod nhw am flaenoriaethu gwella’u diwylliant a’u cyfleoedd i fenywod.

Mae rhai o’r gwelliannau hyn yn cynnwys:

  • cyhoeddi dangosyddion perfformiad i fesur recriwtio menywod
  • cynnig mwy o gyfleoedd secondiad i Lywodraeth Cymru, Network Rail a chwmnïau gweithredu trenau eraill
  • lleihau rhagfarn ddiarwybod drwy hyfforddi rheolwyr.