Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r Athro Chris Williams, yr hanesydd blaenllaw sydd wedi marw’n 61 oed.

Yn enedigol o Gasnewydd ac wedi’i fagu yn Swindon, graddiodd o Goleg Balliol yn Rhydychen cyn ennill ei ddoethuriaeth o Brifysgol Caerdydd dan oruchwyliaeth yr Athro Dai Smith yn 1991.

Daeth yn Ddarlithydd Hanes Prydain yn y 19eg ganrif yn y brifysgol honno yn 1988, cyn symud i Brifysgol Morgannwg yn 2001 yn Athro Cymru Fodern a Chyfoes.

Rhwng 2005 a 2013, bu’n Athro Hanes Cymru ym Mhrifysgol Abertawe, cyn dychwelyd i Brifysgol Caerdydd yn Athro Hanes ac yn Bennaeth yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

Symudodd i Iwerddon yn 2017 ar ôl cael ei benodi’n Bennaeth Coleg y Celfyddydau, Astudiaethau Celtaidd a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Cork.

Roedd ei ymchwil ddiweddaraf yn canolbwyntio ar hanes darluniau cartwnau gwleidyddol o’r Chwyldro Ffrengig hyd at yr Ail Ryfel Byd.

Bu’n gweithio hefyd ar hanes cymdeithasol a gwleidyddol Casnewydd o’r ddeunawfed ganrif hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf, yn ogystal â phrosiectau niferus yn ymwneud â’r actor Richard Burton.

Roedd yn aelod o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, Bwrdd Golygyddol Gwasg Prifysgol Cymru a’r Welsh History Review.

Teyrngedau

“Rydym yn drist iawn o glywed am golli’r Athro Chris Williams, ac mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau,” meddai Prifysgol Abertawe mewn datganiad i golwg360.

“Byddwn yn gwneud sylw pellach maes o law.”

Yn ôl yr Athro Martin Johnes o Adran Hanes y brifysgol, roedd yn “un o haneswyr mwyaf blaenllaw Cymru”.

“Fe olygodd e ddyddiaduron Richard Burton a chyhoeddi gwaith oedd yn torri tir newydd ar y Blaid Lafur a phynciau eraill.

“Cafodd e ddylanwad proffesiynol a phersonol enfawr ar genhedlaeth o ysgolheigion Cymru.”

Dywed Wendy Ugolini o Brifysgol Caeredin ei fod yn “ysgolhaig hael ac ysbrydoledig”.

Yn ôl yr awdur a newyddiadurwr Tony Earnshaw, mae ei farwolaeth yn “newyddion eithriadol o drist”.

“Roedd gwaith Chris Williams ar y dyddiaduron [Richard Burton] yn ddarn enfawr o ysgrifennu, golygu ac ymchwilio,” meddai.

“Mae pob un ohonom ni selogion Burton yn ei ddyled.”