Am 11 o’r gloch y nos ar Ionawr 31, 2020, fe newidiodd popeth yng ngwledydd Prydain. Er gwaetha’r pedair blynedd i baratoi am effeithiau Brexit, doedd hynny ddim wedi gwneud yr holl beth yn haws, yn enwedig i’r diwydiant twristiaeth.

Cyn 2020, roedd y dewis i weithio dramor yn un poblogaidd; roedd yn gyfle i brofi diwylliant hollol wahanol, ac i ennill profiadau heb eu tebyg.

Roedd gwaith tymhorol i’w gael yn Ffrainc, gyda chanran fawr o’r gwaith yma mewn cyrchfan sgïo yn denu oddeutu 25,000 o weithwyr o wledydd Prydain, yn ôl data SBIT (Seasonal Businesses in Travel).

Yn aml, trigolion gwledydd Prydain ar flwyddyn allan rhwng yr ysgol a’r brifysgol, neu oedd newydd raddio, oedd y gweithwyr hyn ar y cyfan.

Fisa ar ôl Brexit

Gan fod y Deyrnas Unedig bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae angen trwydded waith a fisa gwaith cyn mynd i weithio mewn gwledydd sy’n aelodau, er enghraifft Ffrainc.

Mae hon yn broses hir ac anodd, gyda llawer iawn o waith papur i’w gwblhau.

Cwmnïau Prydeinig sy’n cyflogi gweithwyr sy’n ymgeisio am y drwydded waith, heb sicrwydd o lwyddiant, ac mae hyn yn achosi i nifer o gwmnïau’r Deyrnas Unedig i ystyried gweithwyr gyda phasbort yr Undeb Ewropeaidd yn unig ar gyfer swyddi yn ystod y tymor sgïo.

Dyma’r drafferth fwyaf i drigolion gwledydd Prydain. Roedd hi bron yn amhosib bellach i wneud rhywbeth oedd wedi bod mor syml ychydig flynyddoedd ynghynt.

Nid dim ond i’r gweithwyr roedd y rheolau newydd yn achosi rhwystredigaeth chwaith.

Roedd arweinwyr y diwydiant wedi egluro nad oedd eu modelau busnes yn gynaliadwy tu allan i’r Undeb Ewropeaidd erbyn hyn, oherwydd fyddai hi ddim yn bosib cyflogi a defnyddio gweithwyr ar gontractau dros-dro.

Gobaith ar y gorwel?

Aeth Ollie Howell, sy’n 21 oed, i Ffrainc ar gwrs hyfforddi sgïo yn 2022.

Gan mai cwrs oedd hwn, doedd dim problemau ganddo yn y broses gynllunio.

Fodd bynnag, unwaith iddo gael ei gymhwyster, sylweddolodd e mai profiad cyfyngedig fyddai gweddill y daith, o ganlyniad i reolau gweithio dinasyddion Prydain.

“Roedd hi’n amhosib cael gwaith ma’s yno achos sefyllfa’r fisas, achos mae rhaid cael eich noddi i weithio allan yna, yn enwedig yn Ffrainc,” meddai wrth golwg360.

“Yn y diwedd, gwnaethon ni gysgodi pobol sydd wedi bod yn gweithio yno am flynyddoedd, yn lle gweithio ein hunain.”

Mae modd dadlau, felly, bod pobol fel Ollie Howell yn derbyn yr un dyletswyddau â pherson sy’n gweithio fel hyfforddwr sgïo, ond heb y buddion ariannol.

Er nad oedd ei brofiad dramor yn cyrraedd ei ddisgwyliadau, mae Ollie Howell yn gwerthfawrogi’r sgiliau ddatblygodd e yn ystod ei amser yn Ffrainc.

“Dw i’n teimlo’n gyfforddus nawr yn siarad o flaen grwpiau mawr, achos roeddwn i’n dysgu grwpiau o wyth neu naw person ar yr un pryd,” meddai.

Ymrwymiad pobol ifanc

Ochr arall y geiniog yw profiadau pobol fel Jamie Holland, sy’n 21 oed ac yn dod o Abertawe.

Roedd hi wedi bod yn chwilio am waith fel gwesteiwraig mewn chalet yn ystod ei blwyddyn allan cyn mynd i’r brifysgol.

“Doedd dim rôl ar gael, gan eu bod nhw’n mynd i unrhyw un arall sy’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd,” meddai wrth golwg360.

“Roedd hyn yn golygu y gallai llawer o Wyddelod gael swyddi o hyd.”

Mae’n cyfaddef y byddai hi’n barod i fynd drwy broses ymgeisio hir pe bai sicrwydd llwyr fod lle iddi weithio dramor, er ei bod hi’n cael “cymaint o drafferth”.

Mae hi’n nodweddiadol o ymrwymiad pobol ifanc i gael profiadau o weithio dramor, er bod hwn yn faes llawn anobaith i drigolion gwledydd Prydain.

“Os rhywbeth, mae’r pandemig wedi cynhyrfu fy awydd i weithio allan tu allan i Brydain a gweld mwy o’r byd,” meddai.

Ffactorau eraill

Does dim modd tanbrisio effaith Covid-19 ar ein heconomi, a gallu’r wlad i weithredu yn ôl yr arfer.

Yn ôl arolwg yn 2021 gan InterNations, fe wnaeth y pandemig achosi i un ym mhob pump o bobol i ddychwelyd adref ar ôl bod yn gweithio dramor.

Er hynny, roedd 46% o’r rhain yn bwriadu dychwelyd i’w bywydau tramor o fewn blwyddyn.

Gan ystyried, felly, bod rhesymau personol yn denu nifer i ddychwelyd adref, mae awydd bron hanner y grŵp hwn i ddychwelyd dramor yn awgrymu bod gweithio dramor yn cynnig ansawdd bywyd gwell neu dâl uwch nag sydd yn y wlad hon.

Bron i ddegawd ers Brexit, rydym bellach yng nghanol argyfwng costau byw, ac mae’r un ffactorau ar waith eto wrth benderfynu a yw rhywun yn dod adref i wledydd Prydain neu’n mynd dramor i chwilio am waith a bywyd gwell.