Mae gwerthiant eglwys hanesyddol Llanfihangel-yng-Ngwynfa, lle mae’r emynydd Ann Griffiths wedi’i chladdu, wedi cael ei ohirio am flwyddyn.
Mae mwy na 1,200 o bobol bellach wedi llofnodi deiseb yn pwyso ar yr Eglwys yng Nghymru i atal y gwerthiant, yn dilyn cyhoeddi bwriad Esgobaeth Llanelwy i’w gwerthu mewn arwerthiant yr wythnos nesaf (Ebrill 11).
Roedd yr eglwys ar werth am £30,000.
‘Dim gwerth ar gyfoeth hanes Cymru’
Wrth ymateb i’r arwerthiant, roedd y cerddor Lleuwen Steffan wedi bod yn dweud bod y sefyllfa “fel petai dim gwerth ar gyfoeth hanes Cymru”.
Roedd yr arwerthwyr wedi gosod canllaw o £55,000 ar yr eglwys.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Lleuwen Steffan nad oes sôn amdani yn yr hysbyseb i werthu’r eglwys, sydd wedi bod yn rhan ganolog o’r pentref ers y 1800au.
Bu’n rhaid i’r eglwys gau ei drysau yn 2020 oherwydd cyflwr yr adeilad a chostau ei hadnewyddu, a chafodd y plygain olaf ei gynnal yno fis Ionawr y flwyddyn honno.
Dydy’r gwerthiant ddim yn cynnwys tir yr eglwys hefyd, a bydd yr hawl i gynnal a chadw’r tir hwnnw’n cael ei roi, gan ddiogelu’r fynwent a mynediad i’r cyhoedd.
Ann Griffiths a’r plygain
“Does dim sôn amdani yn hysbyseb y gwerthwyr tai,” meddai Lleuwen Steffan ar X (Twitter gynt) am Ann Griffiths.
“Er iddi gael ei bedyddio, priodi a chladdu yno.
“Fel petai dim gwerth ar gyfoeth hanes Cymru.
“Does dim sôn am le’r eglwys hon yn nhraddodiad y plygain – lle cynhelid ‘y Blygien Fawr’ ar ddiwedd y tymor plygeiniau.
“Bu’n cynnal gwasanaethau plygain ers y drydedd ganrif ar ddeg.
“Dim gair am hyn wrth iddyn nhw drio gwerthu’r lle.
“Mae’n siarad cyfrolau am gyflwr y wlad.
“Mi wn i bod trigolion yr ardal wedi gofalu am yr eglwys a bod yna waith atgyweirio dibendraw, a phwy sy’n medru fforddio rhoi amser a phres i brosiect mor fawr â hwn?
“Does gen i ddim atebion.
“Dw i’n rhannu hyn efo chi fel hyn achos ’mod i wedi pendroni am y peth drwy’r nos a’r dydd, a rhaid i mi feddwl am rywbeth arall rŵan.
“Dw i’n gobeithio bydd gennych well syniadau na fi.”
‘Cymru ar ei gliniau’
Yn ôl Robat Idris, cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, mae angen gwarchod llefydd o’r fath.
“Mae Cymru ar ei gliniau,” meddai. “Ond nid fel y byddai Ann.
“Y llecyn hwn yn bwysicach o lawer i ni fel Cymry na’r tai bonedd fel Castell Penrhyn sy’n cael gofal a llond trol o arian.”