Mae marchnad newydd Ffos Caerffili wedi agor ei drysau heddiw (dydd Gwener, Ebrill 5), gyda’r agoriad swyddogol wedi denu “dwsinau” o bobol oedd yn awyddus i weld y safle newydd.

Y bwriad gwreiddiol oedd fod y farchnad yn agor ar Fawrth 15, ond roedd glaw trwm wedi achosi oedi wrth gwblhau’r gwaith.

Yn ôl Jamie Pritchard, dirprwy arweinydd Cyngor Caerffili, roedd yr agoriad yn un llwyddiannus.

“Aeth yr agoriad yn dda iawn,” meddai wrth golwg360.

“Roedd llif cyson o drigolion yn dod trwy’r drysau.

“Roedd naws gadarnhaol iawn yno, ac roedd trigolion a masnachwyr yn teimlo’n fodlon iawn gyda hynny.”

Gobaith y Cyngor yw fod y datblygiad am ddod â chyfleoedd a bwrlwm newydd i’r ardal.

“Bydd y farchnad newydd yn siŵr o ddod â chyflogaeth, denu mentrau busnes newydd, optimistiaeth a dechrau newydd i’r dref,” meddai wedyn.

Creu hyd at 50 o swyddi

Yn y farchnad, mae 28 o gynwysyddion llongau sydd wedi’u hailbwrpasu fel siopau a bwytai.

Erbyn yr agoriad swyddogol, roedd hanner yr unedau wedi’u llenwi.

Ond y gobaith yw y bydd y farchnad yn gartref i 28 o fusnesau bach lleol, ac y bydd yn creu hyd at 50 o swyddi newydd yng Nghaerffili.

Mae’r cynllun wedi derbyn cefnogaeth gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Cyffredin y Deyrnas Unedig, sy’n rhan o’r agenda Codi’r Gwastad.

Yn ôl Jamie Pritchard, roedd grant Ewropeaidd wedi galluogi’r Cyngor i arbed £1m ar y prosiect, gan ostwng gwariant y Cyngor i £150,000.

Yn ôl rhai o fasnachwyr y safle, mae’r gefnogaeth gan y gymuned leol wedi bod yn “anhygoel”.

Mae’r farchnad yn rhan o Gynllun Tref Caerffili 2035, sydd â “gweledigaeth feiddgar ar gyfer dyfodol canol tref Caerffili, ac sy’n anelu at adfywio’r ardal”.

Mae’r farchnad, sydd yn ganolbwynt i’r gymuned, hefyd wedi derbyn cymorth ariannol gan fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.