Mae’r arolwg cenedlaethol diweddaraf o Fodaod Tinwyn (hen harriers) yn dangos bod niferoedd yr adar ysglyfaethus wedi cynyddu 14% rhwng 2016 a 2023.

Yn ôl yr RSPB, mae’r cynnydd yn “galonogol”.

Serch hynny, dydy niferoedd y Bodaod Tinwyn yng Nghymru ddim wedi dod yn ôl i’r niferoedd gafodd eu gweld yn gynharach yn y ganrif hon.

Mae Bodaod Tinwyn, sy’n adar ysglyfaethus canolig eu maint, yn hela llygod pengrwn ac adar bach drwy hedfan i fyny ac i lawr dros rug neu laswelltir.

Yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig, maen nhw’n nythu bron yn gyfangwbl yn yr ucheldiroedd.

Yn y gwanwyn, mae’r gwrywod yn hedfan i mewn dros y rhostir, gan fagu’r llysenw “Dawnsiwr yr Awyr”.

Yn y gaeaf, mae’r Bodaod Tinwyn sy’n bridio yng Nghymru yn symud i’r de, gyda rhai’n aros yng Nghymru ac adar ifainc yn teithio mor bell i ffwrdd â Ffrainc ac Iberia.

Newyddion da, ond pryderon wedi’u codi

Mae’r arolwg, gafodd ei arwain gan y RSPB a’i ariannu gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yn dangos bod 95% o’r parau wedi cael eu canfod ar rostir grug – i fyny o 86% yn 2016.

Dywed Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau RSPB Cymru, fod gweld y Bodaod Tinwyn yn ystod y gwanwyn yn arwydd o rostir iach.

“Mae’n galonogol bod y niferoedd wedi cynyddu yng Nghymru fel rhan o’u hadferiad hirdymor, ond mae’n drist bod cynifer yn cael eu lladd ar draws y Deyrnas Unedig bob blwyddyn,” meddai.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru bennu mai un o’i ganlyniadau allweddol yw adfer ucheldiroedd Cymru, er budd ystod o fywyd gwyllt gwerthfawr, mae hyn hefyd o fudd i gymdeithas drwy storio dŵr a charbon i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae hi’n hanfodol hefyd bod yr heddlu’n ymchwilio i droseddau sy’n bygwth ein poblogaethau o adar ysglyfaethus”.

Ychwanega Patrick Lindley, Prif Gynghorydd Arbenigol Arweiniol Cyfoeth Naturiol Cymru, ei fod yn falch o weld y cynnydd o 14% yng nghyfanswm nifer y parau ers arolwg 2016.

“Er hynny, mae’n destun pryder bod canlyniadau arolwg 2023 yn awgrymu crebachiad gogleddol yng Nghymru a rhywogaeth sy’n meddiannu cyfran fach yn unig o’r cynefin a allai fod yn addas ar gyfer bridio,” meddai.

“Mae’r rhesymau dros y tueddiadau hyn yn aneglur ac mae angen ymchwil pellach i bennu’r prif yrwyr.”