Mae cyferbyniad amlwg rhwng y rheoliadau amgylcheddol llym sydd ar y diwydiant amaeth a diffyg unrhyw fesurau cyfatebol i atal gor-dwristiaeth yng nghefn gwlad.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae ffermwyr wedi bod yn datgan eu pryderon am Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Mae’n amlwg fod i’r cynllun hwnnw lawer o ddiffygion, er bod yn rhaid cydnabod mai’r colli arian yn sgil Brexit ydi un o’r prif resymau drosto yn y lle cyntaf.
Mae’r undebau amaethyddol yn amcangyfrif y gallai arwain at leihad o 10% yn y niferoedd gaiff eu cyflogi yn y diwydiant, fyddai’n ergyd yn sicr i gefn gwlad. O gofio pwysigrwydd amaethyddiaeth yn llawer o gadarnleoedd y Gymraeg, byddai hefyd yn fygythiad difrifol i ddyfodol yr iaith a’r diwylliant a’r dreftadaeth Gymraeg.
Mae’n wir fod i’r Cynllun y nod cwbl gynaliadwy o wneud y diwydiant yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol a chyfrannu mwy at warchod bywyd gwyllt a lleihau carbon. Does dim amheuaeth, fodd bynnag, ei fod yn mynd ati mewn ffordd hynod o drwsgwl, ac mae’r syniad o neilltuo 10% o’n holl dir amaethyddol i blannu coed yn amlwg yn mynd yn rhy bell. Mae’n peri i rywun amau ei fod yn arwydd o gynllun sydd wedi ei lunio gan fiwrocratiaid yng Nghaerdydd nad ydyn nhw’n deall hanner digon am gefn gwlad.
Mae’n ddigon posibl y bydd rhai o elfennau mwyaf eithafol y Cynllun yn cael eu hepgor. Er hyn, beth bynnag fydd yn digwydd, mae’n anochel y bydd ffermwyr yn wynebu rheoliadau llym o ran gwarchod yr amgylchedd.
Neges glir Llywodraeth Cymru ydi fod yn rhaid i ffermwyr addasu i ofynion ein hoes. Ac yn sicr, mae’n gwbl iawn fod mwy o bwyslais yn cael ei roi ar amddiffyn cyfoeth y ddaear a chynefinoedd byd natur.
Eto i gyd, all rhywun ddim peidio â sylwi mor ddi-hid mewn cymhariaeth ydi Llywodraeth Cymru tuag at fygythiad llawer iawn mwy i gynaliadwyedd cefn gwlad – sef gor-dwristiaeth.
Ers blynyddoedd lawer, mae cyfyngiadau llym i rwystro ffermwyr rhag gadael i’w hanifeiliaid or-bori tir, sy’n hollol resymol. Ar y llaw arall, ychydig iawn o sylw gaiff ei roi i union yr un math o ddihysbyddu adnoddau gan ymwelwyr sy’n digwydd yn sgil gor-dwristiaeth. Does ond angen inni feddwl am y golygfeydd welsom yr wythnos ddiwethaf o filoedd ar filoedd o bobol yn ciwio i gyrraedd copa’r Wyddfa. Beth ydi hyn ond gor-bori dinistriol ar raddfa ddiwydiannol?
Dyhead
Mae’r cyfan yn gwneud i arwyddair Parc Cenedlaethol Eryri, ‘Lle i enaid gael llonydd’, deimlo’n fwy o ddyhead nag unrhyw adlewyrchiad o’r sefyllfa fel y mae.
Unwaith eto, dros y Pasg, roedd ceir yn cael eu parcio’n anghyfreithlon yn Nant Ffrancon a Bwlch Llanberis. Mae’n ymddangos bod tywydd cymharol wael wedi cadw’r sefyllfa rhag mynd yn llawer gwaeth.
Mewn ymateb, sylw rheolwr Twristiaeth Gogledd Cymru, y corff sy’n lobïo ar ran y diwydiant yn y gogledd, mewn cyfweliad yr wythnos yma oedd fod angen gwario mwy ar feysydd parcio. Nid yw’n glir pwy ddylai dalu am ddatblygiadau fel hyn, gan mai union yr un lobïwyr sydd wedi bod uchaf eu cloch hefyd yn dadlau yn erbyn treth twristiaid yn y gorffennol.
Hyd yn oed pe byddai dadl dros greu meysydd parcio ychwanegol, nid trethdalwyr lleol ddylai fod yn talu am ddatblygiadau o’r fath. A ph’run bynnag, mae risg gwirioneddol mai annog mwy fyth o draffig fyddai ychwanegu at y cyfleusterau ar eu cyfer.
Yn hytrach na gwario arian cyhoeddus ar feysydd parcio newydd, gwell o lawer fyddai sicrhau bod y dirwyon parcio yn ddigon uchel i helpu i godi arian at achosion lleol.
Dylai fod yn amlwg i bawb fod pobol yn mynd i heidio i gefn gwlad Cymru yn eu miloedd heb fod angen unrhyw anogaeth pellach ar ein rhan.
Anghysondeb
Mae rhywun yn cael yr argraff fod Llywodraeth Cymru yn barod i daflu eu harian yn hael at bob mathau o fentrau twristaidd. Os felly, onid rhesymol a theg fyddai disgwyl iddi osod safonau tebyg i’r diwydiant i’r hyn mae’n eu gosod ar amaethyddiaeth?
Meddyliwch am yr holl gynefinoedd sy’n cael eu dinistrio gan or-dwristiaeth, heb sôn am y cynnydd mewn allyriadau carbon yn sgil yr holl gerbydau sy’n dod i gefn gwlad.
Os ydi Llywodraeth Cymru’n meddwl ei bod yn syniad da bod ffermwyr yn neilltuo 10% o’u tir i blannu coed, pam na argymhellir gosod amodau tebyg ar feysydd carafannau? Gellir yn hawdd gynnig cymhellion i berchnogion blannu coed yn gyfnewid am leihau niferoedd eu hunedau gwyliau.
Mae’n wir fod cryn dipyn o sôn o bryd i’w gilydd am dwristiaeth gynaliadwy. Ond crafu’r wyneb yn unig y bydd unrhyw fesurau’n ei wneud oni eir i’r afael â’r broblem sylfaenol – sef fod gormod o bobol yn dod yma. Nid trwy gael mwy o fysus trydan neu osod paneli solar o doeau llety mae gwneud y diwydiant yn fwy cynaliadwy. Mae hyn am ddibynnu llawer mwy ar gyfyngu ar nifer y datblygiadau a chefnu ar y feddylfryd mai gorau po fwyaf o ymwelwyr a gawn.
Mae fel pe bai disgwyl i bawb ohonom uniaethu’n hunain â’r meddylfryd torfol y dylen ni lawenhau wrth weld y torfeydd. Mae bron fel pe baem ni i fod i’w hystyried yn fraint bod cymaint yn heidio i’n hardaloedd, a bod dweud y gwir plaen am beryglon gormod o ymwelwyr yn ymylu ar fod yn gabledd.
Difetha
Y ffaith amdani ydi nad ydi gor-dwristiaeth o fudd i neb yn y tymor hir. Mae’n gyfystyr â difetha’r union gyfoeth profiad sydd gan gefn gwlad i’w gynnig i ymwelwyr. Dyna pam na ddylid gweld gwrthwynebiad i or-dwristiaeth fel unrhyw fygythiad i ffyniant twristiaeth gynaliadwy.
Nid oes dim anghysondeb chwaith rhwng yr angen i wrthsefyll gor-dwristiaeth ar y naill law, ac i annog mwy o Gymry i fentro i faes twristiaeth gynaliadwy ar y llaw arall. Dylai unrhyw ymgais at gynyddu cynaliadwyedd y diwydiant gynnwys ei Gymreigio’n sylweddol hefyd. Mae’r ffaith fod cymaint o fusnesau yn nwylo Saeson, hyd yn oed yn ein hardaloedd Cymreiciaf, yn rhoi delwedd ddifrifol wael ohonom fel cenedl.
Rhaid cydnabod, wrth gwrs, fod pob mathau o fusnesau lletygarwch yn cynnal llawer o deuluoedd Cymraeg yng nghefn gwlad, sy’n hanfodol i ffyniant llawer ardal. Yn sicr, mae hyn yn rywbeth i’w groesawu ac maen nhw’n haeddu pob cefnogaeth. Rhaid sylweddoli, fodd bynnag, nad trwy gynyddu cyfanswm cyffredinol yr ymwelwyr mae hyrwyddo’r busnesau hyn, ond trwy eu helpu i gael cyfran uwch o’r ymwelwyr presennol.
Dylai blaenoriaeth am unrhyw gymorth gael ei rhoi i fusnesau teuluol cynhenid, a hefyd i unrhyw fentrau cymunedol sy’n gweithredu yn y maes. Yn yr un modd, dylai hefyd fod rhagdybiaeth yn erbyn unrhyw datblygiadau mawr newydd gan gwmnïau o’r tu allan.
Ardaloedd allweddol
Yr hyn sy’n rhaid ei gofio ydi bod Parc Cenedlaethol Eryri ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn yn ffurfio rhan sylweddol a chwbl allweddol o brif gadarnle’r Gymraeg yn y gogledd-orllewin. O gofio pwysigrwydd amaethyddiaeth a thwristiaeth yn y ddwy ardal hyn, ni ellir gorbwysleisio cymaint sydd yn y fantol.
Nid tasg hawdd ydi cael y cydbwysedd iawn rhwng y math o dwristiaeth gynaliadwy all helpu i gynnal y gymdeithas Gymraeg gynhenid a’r gor-dwristiaeth sy’n ei bygwth. Does dim amheuaeth fod ein sefydliadau cyhoeddus yn gwyro’n ormodol tuag at or-dwristiaeth ar hyn o bryd. Bydd yn rhaid i hynny newid os ydan ni am sicrhau dyfodol cynaliadwy i ardaloedd mor allweddol i’n diwylliant a’n treftadaeth.