Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y cyflwynydd a newyddiadurwraig Beti George sy’n rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon. Fe fydd Beti George a’r cyflwynydd a DJ Huw Stephens yn teithio ar hyd a lled Cymru mewn cyfres newydd ar S4C o’r enw Cysgu o Gwmpas gan ymweld â rhai o westai a bwytai gorau Cymru…


Roedd bwyd yn bwysig yn ein tŷ ni yng Nghoedybryn [ger Llangrannog]. Roedd mam yn gogydd arbennig, a hi hefyd oedd cwc yr ysgol fach yn y pentre’. Dw i’n cofio’r tartenni oedd hi’n gwneud – yn enwedig y rhai llysiau duon bach. Does neb gynt nac wedyn yn fy mywyd i wedi gallu gwneud pastry tebyg iddi. Dyna un rheswm mai yn anaml iawn y bydda i’n gwneud tarten, am nad yw’r crwst yn troi ma’s gystal ag un mam.

Mae’r byd bwyd wedi mynd trwy sawl chwyldro ers i mi gael fy ngeni. Fyse mam ddim yn ’nabod y bwyd y bydda i yn ei goginio y dyddiau ’ma. Mae’n anodd i fy wyrion i ddychmygu byd heb basta, er enghraifft, neu heb tsili a saws miso. Mae’r rheiny yn gynhwysion cyffredin yn fy mwyd erbyn hyn. Pysgod hefyd yn amlach na chig erbyn hyn. Ond dim macrell – alla i ddim cyffwrdd â hwnnw sy’n cael ei werthu yma yng Nghaerdydd. Oherwydd ’dyw e ddim byd tebyg i’r mecryll y bysen ni’n ei gael slawer dydd –  yn ffres o’r môr yn Llangrannog ac i’r badell ffrio.

Beti George yn y gyfres Cysgu o Gwmpas ar S4C

Pan dw i eisiau bach o gysur, allan am bryd o fwyd gyda ffrindie yw’r ateb. Yn aml iawn, pysgod a sglodion fydd y pryd i fi. Ond y gwmnïaeth sy’n bwysig.

Fe gefais i y pryd delfrydol rai misoedd yn ôl. Roeddwn i’n lwcus iawn i gael bod yn gyd-gyflwynydd gyda Huw Stephens ar y gyfres Cysgu o Gwmpas. Fe ymwelon ni â chwech o westai Cymru. Roedd Ynyshir ger Machynlleth yn un ohonyn nhw. A dyna ble gawson ni’r pryd mwya’ bythgofiadwy allai unrhyw un ei gael – yn fy marn i! 30 o gyrsiau neu gegeidiau. Pob cwrs yn gegaid baradwysaidd!  Y cyfan wedi ei greu yn berffaith gan berfformiwr y noson – y chef dwy seren Michelin, Gareth Ward. Y pris yw £395. Ond o’i gymharu â’r cannoedd mae pobol yn ei dalu i fynd i weld Taylor Swift, neu Beyonce neu Harry Styles – mae’n werth pob ceiniog! A fyswn i ddim yn awyddus i fynd yno bob nos!

Beti George a Huw Stephens yn mwynhau pryd ‘bythgofiadwy’ ym mwyty Ynyshir ger Machynlleth yn y gyfres Cysgu o Gwmpas ar S4C

Yr atgof sy’n dod i mi yn aml iawn yw’r bwyd roedden ni’n ei gael ar ôl sefyll arholiad Ysgol Sul. Yn enwedig cream horns Annie, ffarm Blaenbachcrydd. Roedd y pentre yn llawn o gogyddion gwych.

Cream horns

Pan ddaw fy wyrion o Brighton i weld eu mam-gu, Manon, nid Fin, sy’n mynnu’r dewis o bryd. A’i dewis hi bob tro yw coes neu ysgwydd oen wedi’i rostio gyda’r holl drimins. I bwdin – brownies neu gacen fudge siocled, neu hufen iâ mwyar duon.

Mae cannoedd o lyfrau coginio ar silffoedd yn y tŷ. Ond mae’r amynedd yn brin i fynd i edrych am rysáit – google-o ydi’r duedd y dyddie ma.

Bydd Cysgu o Gwmpas yn dechrau nos Lun, Ebrill 8 ar S4C am 8yh.

Beti George a Huw Stephens gyda pherchennog Ynyshir, Gareth Ward yn y gyfres Cysgu o Gwmpas