Deng mlynedd ar hugain! Aeth deng mlynedd ar hugain heibio ers dechrau’r gyflafan yn Rwanda ym mis Ebrill 1994 (Ebrill 7 tan Orffennaf 15).

Wrth baratoi gwaith ymchwil am natur a chyfeiriad gwleidyddiaeth yn sgil hil-laddiad, aeth Sarah Kenyon Lischer i ymweld â Rwanda yn 2010.

Soniai Lischer am ei hymweliad â phentref o’r enw Ntarama. Cafodd 5,000 o wŷr, gwragedd a phlant Tutsi eu lladd yno mewn eglwys fechan a’i chyffiniau, wedi iddyn nhw heidio yno i geisio noddfa rhag gynddaredd yr Hutu. Bellach, saif adeilad yr eglwys yn gofeb i’r erchylltra hwnnw. Ynghrog ar y muriau mae dillad y meirw. Yn bentwr yn erbyn y wal, cafodd eiddo’r meirw ei osod – offer coginio, lluniau teuluol, bagiau, cesys dillad: pethau cyffredin bywyd. Yn gymen ar silffoedd gwastad mae trwch o esgyrn – penglogau’n bennaf – rhesi ohonyn nhw, y naill ar ben y llall, a nifer fawr ohonyn nhw’n fychan bach. Uwchben yr esgyrn mae arwydd, ac arni’n ysgrifenedig yn yr iaith Kinywarwanda mae’r geiriau hyn:

Pe baech chi’n fy adnabod, ac yn adnabod eich hunan, ni fuasech yn fy lladd.

Fe berthyn i’r geiriau rheini wirionedd ysgytwol: brawychus o berthnasol i fyw a bod pawb ohonom. Hanfod trais o bob math yw’r argyhoeddiad nad person fel ninnau mo gwrthrych y trais. Yr arwahanrwydd hwn wna drais yn bosibl. Gellid lladd ar rywun – gellid lladd rhywun – oherwydd i ni gredu nad pobol fel ninnau mohonyn nhw; ond pe baech chi’n fy adnabod, ni fuasech yn fy lladd.

Yn ogystal, onid yw ein parodrwydd i fod yn dreisgar ar air neu weithred yn aml iawn yn adlewyrchiad cudd o’n diffyg hyder ynom ni ein hunain? Gall ein hatgasedd at rywun neu rywrai fod yn adlewyrchiad o’r hunanatgasedd sy’n llercian ym mhawb; ond pe baech chi’n adnabod eich hunan, ni fuasech yn fy lladd.

Gwaelod, a gwraidd y ffydd Gristnogol yw mai da ydym: ac wele da iawn ydoedd (Genesis 1:31 WM) meddai Duw wedi creu ohono ddynoliaeth. Crëwyd ni i gymdeithas: Nid da bod y dyn ei hunan (Genesis 2:18 WM). A beth am y Testament Newydd? Wel, os yw’r Testament Newydd yn dweud rhywbeth o gwbl, mae’n dweud ar bob tudalen na fedra i gael Duw i mi fy hunan yn annibynnol ar fy mrodyr a chwiorydd. Onid Ein Tad, nid fy Nhad yw’r cyfarchiad yn y weddi berffaith honno a gafwyd gan Iesu’n batrwm i bob gweddi? (Mathew 6: 9-13)

Ystyriwch y mab hynaf yn y ddameg fawr honno (Luc 15:11-30); gwrandewch arno:

“Ond pan ddychwelodd hwn, DY FAB, sydd wedi difa dy eiddo gyda phuteiniaid, lledaist iddo ef y llo oedd wedi pesgi.”

Nid yw’r tad y dadlau unrhyw bwnc o egwyddor. Nid yw’n ceisio troi dadl ei fab hynaf. Yr unig bwynt mae’r tad yn ei godi yw pwynt perthynas. Sylwch:

Yr oedd yn rhaid gwledda a llawenhau, oherwydd yr oedd hwn DY FRAWD wedi marw, a daeth yn fyw, yr oedd ar goll, a chafwyd hyd iddo. (Luc 15:30 a 32).

Dw i’n credu mai’r unig bwynt mae’r Tad yn ei godi o hyd yw pwynt perthynas: Brodyr a chwiorydd ydym. Ofer pob crefydd a phob crefydda heb gofio hyn. Y mae crefydd – y cwbl ohoni – mewn newid ‘Ti’ am ‘Ni’: Pe baech chi’n fy adnabod, ac yn adnabod eich hunan, ni fuasech yn fy lladd.

Mae llun, yn ôl pob tebyg, yn gyfwerth â mil o eiriau. Mi ddois ar draws hwn yn ddiweddar iawn: notabugsplat.com Bug splat yw’r enw gaiff ei roi gan y lluoedd arfog i berson gafodd ei ladd gan awyren ddi-beilot (drôn). Ar sgrin gyfrifiadurol, ymdebyga corff yr hwn gafodd ei ladd i bryfyn wedi’i wasgu.

Cafodd anferth o lun o blentyn bach ei osod mewn cae ym Mhacistan er mwyn tynnu sylw at y ffaith syml fod ‘adar angau’ yn lladd pobol go iawn, ac yn aml – yn rhy aml o lawer – plant. Gobaith arlunwyr Notabugsplat yw y bydd y rheini sy’n rheoli’r awyrennau di-beilot, o hyn allan, yn gweld y plentyn yn hytrach na dim ond smotyn gwyn – Bug splat: Pe baech chi’n fy adnabod, ac yn adnabod eich hunan, ni fuasech yn fy lladd.