Dylai pob dysgwr gael eu gyrru ar daith i Seland Newydd efo’r cogydd Chris Roberts a’r cyflwynydd Alun Williams… dyna farn y ddigrifwraig Kiri Pritchard-Mclean.

Mae’r tri wedi bod yn teithio’r wlad yn ffilmio cyfres newydd fydd ar S4C yr wythnos nesaf.

Rhoddodd y trip tair wythnos gyfle “arbennig” i’r gomedïwraig o Fôn, sydd wedi dysgu Cymraeg, drwytho ei hun yn yr iaith. Talodd ar ei ganfed, ac mae gan Kiri bellach hyder o’r newydd wrth ddefnyddio’r Gymraeg.