Arlunydd ifanc o Gaerdydd sy’n gyfrifol am gyfres gartŵn newydd cylchgrawn plant yr Urdd.
Mae Corb Davies yn astudio Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Bryste, ac yn cael ei ysbrydoli gan bobol ddifyr mae’n dod ar eu traws ar y stryd.
‘Boncyrs’ yw enw’r gyfres yng nghylchgrawn Cip, ac mae’r cartŵn wedi’i ysbrydoli gan siaradwyr Cymraeg ifanc o bob cwr o’r wlad.