Y nofelydd poblogaidd Bethan Gwanas yw enillydd Gwobr Mary Vaughan Jones eleni, anrhydedd fwyaf maes llyfrau plant yng Nghymru. Mewn achlysur arbennig yng Ngwersyll yr Urdd Glan Llyn yn ddiweddar fe gafodd ei theulu a’i ffrindiau gyfle i’w llongyfarch yn swyddogol a dyma lun yr awdur yn y digwyddiad.