Mae tua 1,500 o weithwyr dur Tata ym Mhort Talbot a Llanwern wedi pleidleisio o blaid streicio’r wythnos hon, a hynny yn sgil cynllun y cwmni i gau ei ffwrneisi chwyth a chael gwared ar 2,800 o swyddi.
Dyma’r tro cyntaf ers dros 40 mlynedd i weithwyr dur Port Talbot fynd ar streic.
Mae Uno’r Undeb, sy’n cynrychioli’r gweithwyr, yn dweud bod y penderfyniad i streicio’n “bleidlais hanesyddol”.
Ond beth yw hanes yr anghydfod?
Beth ydy’r cefndir?
Mae cwmni dur Tata yn cyflogi 8,000 o bobol, gyda thua 4,000 wedi’u lleoli ym Mhort Talbot.
Mae Tata eisiau cynhyrchu dur mewn ffordd sy’n fwy llesol i’r amgylchedd, ond fe fyddai hynny’n golygu bod angen llai o weithwyr ym Mhort Talbot, meddai’r cwmni. Fe fyddai cau eu ffwrneisi chwyth yn golygu cael gwared ar 2,800 o swyddi.
Fe fydd 2,500 o swyddi yn diflannu erbyn canol y flwyddyn nesaf, a 300 o swyddi yn y fantol yn y dyfodol.
Bydd y cwmni yn gwario £1.25bn ar ffwrnais bwa trydan newydd, a fydd yn cael ei hadeiladu ar safle Port Talbot. Mae Llywodraeth y DU yn cyfrannu £500m tuag at gyfanswm cost y prosiect. Mae disgwyl i’r ffwrneisi chwyth gael eu cau eleni, gyda ffwrnais bwa trydan newydd yn barod erbyn 2027.
Roedd undebau wedi cyflwyno eu cynllun eu hunain a fyddai’n golygu llai o ddiswyddiadau trwy gadw o leiaf un ffwrnais chwyth i fynd nes bod y ffwrnais bwa trydan newydd yn barod. Ond cafodd y syniad yma ei wrthod gan Tata Steel, gan ddweud bod risgiau diogelwch pe bai’r ffwrnais newydd yn cael ei hadeiladu yn agos at y llinell gynhyrchu metel poeth.
Pam mae gweithwyr dur Tata am fynd ar streic?
Mae undebau wedi beirniadu cynllun “trychinebus” cwmni dur Tata.
Dywed Uno’r Undeb eu bod nhw am helpu’r frwydr i achub y diwydiant dur yng Nghymru, ac y byddan nhw’n cyhoeddi dyddiadau’r streiciau yn fuan.
Yn ôl Sharon Graham, Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, mae’r penderfyniad i streicio’n “bleidlais hanesyddol”.
“Dydy gweithwyr dur heb bleidleisio i streicio fel hyn ers yr 1980au,” meddai.
“Mae’r bleidlais hon wedi digwydd er gwaethaf bygythiadau Tata, sef pe bai’r gweithwyr yn mynd ar streic y byddai eu pecynnau diswyddo gwell yn cael eu tynnu’n ôl.”
Mae Plaid Cymru hefyd wedi datgan eu hundod gyda’r gweithwyr ym Mhort Talbot.
Yn ôl y Blaid: “Mae bygythiadau’r cwmni i ddiddymu cymorth ariannol hanfodol pe bai diswyddiadau yn digwydd yn destun pryder ac yn dangos parodrwydd y cwmni i beidio â pharchu democratiaeth gweithwyr – mae’r ffaith bod undebau a gweithwyr yn gwrthod cael eu dychryn a’u dylanwadu gan hyn i’w ganmol.
“Mae cymorth o £500m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer gwaith dur Port Talbot yn druenus o brin ochr yn ochr â’r symiau yn y biliynau y mae gwledydd fel Ffrainc a’r Almaen yn ei fuddsoddi mewn datgarboneiddio.
“Mae Plaid Cymru yn gadarn ein barn bod yn rhaid i ni weld yr un lefelau o uchelgais yma os ydym o ddifrif am ddyfodol cynhyrchu dur gwyrdd, domestig.”
Beth yw hanes cynhyrchu dur mewn rhannau eraill o’r byd?
Mae’r diwydiant dur yng ngwledydd eraill yn Ewrop yn parhau i ffynnu, ac yn ymwybodol fod gan ddur ddyfodol llewyrchus.
Yn yr Iseldiroedd, mae Tata yn parhau ar agor ac mae swyddi’n cael eu diogelu, tra bo’r cwmni yn adeiladu ffwrnais bwa trydan ac yn buddsoddi mewn technoleg hydrogen DRI.
Yn yr Almaen, mae un ffatri yn cynhyrchu mwy o ddur na’r holl ddiwydiant yn y Deyrnas Unedig gyda’i gilydd.
Beth ydy ymateb Tata i’r bygythiad o gynnal streic?
Yn ôl llefarydd ar ran Tata, maen nhw wedi cynnal trafodaethau “agored, cydweithredol ac adeiladol” gydag undebau.
Dywed y cwmni eu bod yn siomedig gyda’r penderfyniad i weithredu’n ddiwydiannol tra bod y broses ymgynghori’n parhau, a’u bod wedi ysgrifennu at Uno’r Undeb i roi gwybod am “anghysondebau sylweddol” yn y broses bleidleisio.