Dyma gyfres newydd sy’n cael cip ar gartrefi rhai o wynebau adnabyddus Cymru. Y gyflwynwraig teledu a radio Nia Parry sy’n agor y drws i’w chartref yn Rhostryfan ger Caernarfon yr wythnos hon.
Er mai merch o Ynys Môn ydw i’n wreiddiol, o bentre’ Dwyran, cefais fy magu yn Llandrillo-yn-rhos, Sir Conwy. Ar ôl cyfnod yn byw yn Abertawe yn y Brifysgol, ac yna’n byw dramor yn Istanbul, symudais i Gaerdydd lle fues i’n byw am 13 o flynyddoedd. Yna daeth yr ysfa i symud yn ôl i’r gogledd i fagu plant a chael bod yn agosach at fy nheulu. Dw i bellach yn byw yn Rhostryfan tu allan i Gaernarfon efo fy ngŵr, Aled, a’n meibion Hedd, 13, a Tirion, 11.
Roedden ni’n awyddus i fyw yn y fro Gymraeg ac fe wnaethon ni syrthio mewn cariad efo’r tŷ a’r olygfa yma yn Rhostryfan. Rydan ni’n byw yma ers 14 o flynyddoedd rŵan a dw i wrth fy modd yma.
Hen fwthyn bach oedd y tŷ gwreiddiol ond cafodd sawl estyniad ei adeiladu ar y tŷ cyn i ni symud yma. Yna mi wnaethon ni benderfynu adeiladu estyniad arall er mwyn i’r stafelloedd gwely a stafell chwarae i’r plant fod yn un pen y tŷ ac mi wnaethon ni droi’r stafelloedd gwely yn yr hen ran yn swyddfa a stafell sbâr. Rydan ni hefyd wedi trawsnewid yr ardd yn llwyr i wneud o’n haws i ofalu amdano ac er mwyn creu lle i’r hogia chwarae pêl-droed!
Un o fy hoff bethau am y tŷ ydy’r olygfa. Allan o bob un ffenest rydan ni’n gweld draw at y Fenai ac yn gweld Ynys Llanddwyn ar Ynys Môn. Ar ddiwrnodau braf a chlir rydan ni hyd yn oed yn medru gweld mynyddoedd Wiclo yn Iwerddon.
Rydan ni newydd adnewyddu’r gegin a thynnu wal i’r stafell drws nesa er mwyn creu cegin fawr efo ardal fwyta ac eistedd a dw i’n hoff iawn o’r stafell honno gan mod i rŵan yn cael cwmni tra dw i’n paratoi swper! Dw i wedi dewis papur wal sy’n fy ngwneud i wenu ac mae ’na le bach handi i ddawnsio yna hefyd!
Dw i hefyd yn caru ein stafell wely. Yn wahanol i weddill y tŷ, mae’r stafell yn wyn i gyd – carped gwyn, waliau gwyn, gwaith celf gwyn, bleinds gwyn, dillad gwely gwyn. Y lle perffaith i fynd i wagio’r meddwl ac ymlacio ar ddiwedd dydd!
Yn fy swyddfa binc mae gen i bob math o drugareddau bach personol sy’n fy atgoffa i o bobl dw i’n eu caru, llefydd sy’n arbennig i fi ac adegau hapus yn fy mywyd. I rai pobl – geriach blêr ydyn nhw ond, i fi, maen nhw’n drysorau bach sy’n gwneud i mi deimlo’n hapus a llon. Maen nhw’n rhan fach o fy hanes i, yn adrodd stori. Hen ornaments Nain Sally a Taid Bob, het Nain Madge, cardiau gan ffrindiau, lluniau, cofroddion llawn atgofion.
O fod wedi gweithio fel cyflwynydd ar y gyfres Adre [ar S4C] am flynyddoedd, mi dw i wedi cael y profiad hyfryd a’r fraint o ymweld â degau o gartrefi enwogion Cymru. Heb os, y tai mwya’ diddorol a chroesawgar ydy’r rheiny lle mae stamp cymeriad y perchennog yn amlwg arnyn nhw. Dw i’n credu’n gryf bod cartre’ go iawn yn estyniad o’ch personoliaeth. I fi, y stamp personol yma sy’n gwneud tŷ yn gartref.
Hefyd, mae’n beth rhyfedd i ddweud ella’ – ond mae cariad yn creu cartref. Dw i’n sicr bod cariad yn y waliau mewn cartre’ clyd a chynnes. Cariad a phobl. Y bobl sy’n byw neu’n cyd-fyw mewn gofod sy’n creu cartre’ go iawn yn fy marn i a does dim ots os ydach chi’n byw mewn fflat un stafell neu blasty crand – os ydy’r darn bach yna o dir yn eich gwneud chi’n hapus, dyna ydy cartre’.
Mae Nia Parry wedi dod yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru gan gyflwyno ambell raglen yn lle Aled Hughes ar ei raglen foreol a Ffion Emyr ar nosweithiau Sadwrn. Mae Nia newydd orffen cynhyrchu Priodas Pum Mil a Prosiect Pum Mil fydd i’w gweld ar S4C yn fuan.