Mae elusen Achub y Plant wedi nodi chwe mis o ryfel yn Gaza trwy ryddhau ffilm newydd gan artist digidol sy’n dangos y sefyllfa enbyd sy’n bodoli i blant yno.

Mae’r artist Vaskange wedi cydweithio gydag Achub y Plant i bortreadu golygfeydd o ddinistr, dadleoli, newyn a cholled yn Gaza.

Caiff y ffilm ei rhyddhau wrth i’r elusen nodi bod 26,000 o blant Palestina bellach wedi’u lladd neu eu hanafu yn Gaza – cyfartaledd o dros 140 y dydd, sy’n golygu mai hwn yw un o’r achosion o wrthdaro dinesig mwyaf angheuol yr 21ain ganrif i blant.

Yn y chwe mis ers ymosodiadau 7 Hydref y llynedd pan gafodd 33 o blant eu lladd yn Israel gan Grwpiau Arfog Palestina, mae mwy na 13,900 o blant wedi’u lladd yn Gaza a 113 yn y Lan Orllewinol gan luoedd Israel, meddai’r elusen.

Mae mwy na 12,000 o blant wedi’u hanafu yn Gaza ac o leiaf 725 yn y Lan Orllewinol, yn ôl Swyddfa’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Cydlynu Materion Dyngarol (OCHA) a’r Weinyddiaeth Iechyd yn Gaza. Mae UNICEF wedi adrodd bod o leiaf 1,000 o blant wedi cael un neu’r ddwy goes wedi’u torri i ffwrdd, a thua 30 allan o 36 o ysbytai wedi’u bomio, gan adael dim ond 10 yn gweithredu’n rhannol.

Mae’r ffilm yn dangos y dioddefaint yn Gaza

Persbectif trwy lygaid plentyn

Mae Achub y Plant wedi rhybuddio bod effaith emosiynol y rhyfel yn golygu bod plant yn ei chael hi’n anodd ymdopi, gyda nifer yn debygol o ddioddef effeithiau seicolegol parhaol.

Mae ffilm Vaskange yn rhoi persbectif trwy lygaid plentyn ar yr argyfwng, gan fynd â’r gwyliwr trwy gyfres o ddarluniau sy’n portreadu’r erchyllterau y mae plant wedi’u dioddef, yn amrywio o gael eu dal yn wystl i atal cymorth digonol i leddfu newyn.

‘Mae’r byd yn gallu gweld beth sy’n digwydd, ond yn dawel’

Mae’r sgript wedi’i haddasu gan ddefnyddio tystiolaethau teuluoedd a phlant sydd wedi byw trwy flynyddoedd o wrthdaro. Mae eu dyfyniadau pwerus yn tanlinellu’r amgylchiadau enbyd, gyda rhieni’n brwydro i fwydo eu plant a’u plant yn mynegi eu hiraeth am fywyd heb drais ac ofn, meddai Achub y Plant.

Meddai Amal*, mam i bedwar o blant yn Gaza.*: “Mae’n rhaid i fy mhlant fwyta beth bynnag maen nhw’n gallu dod o hyd iddo, hyd yn oed os ydyn nhw’n ei gasáu, fel nad ydyn nhw’n marw o newyn.”

Meddai Farah*, plentyn o Gaza yn nhiriogaeth feddianedig Palestina, “Mae’r byd i gyd yn gallu gweld beth sy’n digwydd, ond maen nhw’n dawel… Roeddwn i’n arfer meddwl y byddai pobl yn sefyll dros yr hyn sy’n iawn, ond nawr dydw i ddim yn meddwl bod hynny’n wir.”

‘Cywilydd’

Meddai Liz Bradshaw, Uwch Gynghorydd Gwrthdaro a Dyngarol, Save the Children DU:

“Ers chwe mis bellach, mae plant yn Gaza wedi bod yn byw trwy hunllef. Mae plant o Israel a’r Lan Orllewinol hefyd wedi dioddef yn aruthrol.

“Dylai ein harweinwyr gwleidyddol fod â chywilydd o’u methiant llwyr i sefyll dros blant a chymryd camau ystyrlon i’w hamddiffyn. Drwy fethu â chynnal eu hymrwymiadau rhyngwladol, mae’r DU yn rhan o’r erchyllterau sy’n dal i ddigwydd yn Gaza.

“Rhaid i’r DU nawr ddefnyddio pob owns o ddylanwad i ddod â’r hunllef hon i ben cyn i hyd yn oed mwy o fywydau gael eu colli. Mae hyn yn cynnwys atal gwerthu arfau i lywodraeth Israel ar unwaith.”