Mae gŵyl Tafwyl wedi cyhoeddi pa artistiaid fydd yn cymryd rhan yn yr ŵyl eleni.

Eden, Fleur de Lys, Al Lewis, Celt, Rio 18 ac Yws Gwynedd a’i fand ydy prif artistiaid yr ŵyl gerddoriaeth eleni.

Mae’r trefnwyr hefyd yn addo “sawl elfen newydd cyffrous” eleni.

Fe fydd Tafwyl yn cael ei chynnal ar benwythnos 13-14 Gorffennaf ym Mharc Bute yng Nghaerdydd.

Mae’r ŵyl yn cael ei threfnu gan Fenter Caerdydd ac yn dathlu cerddoriaeth Gymraeg.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd y trefnwyr: “Diolch i’n partneriaid Clwb Ifor Bach am ddod â’r lein-yp anhygoel yma at ei gilydd.

“Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru fydd sawl elfen newydd cyffrous yn Tafwyl eleni.”

Fe fydd Eden yn perfformio nos Sul, Gorffennaf 14 gyda’r trefnwyr yn annog pobl i ddysgu geiriau eu sengl newydd Gwrando sy’n cael ei rhyddhau heddiw (Dydd Gwener, 12 Ebrill).