Mae gwaith S4C wedi arwain at 1,900 o swyddi a £136m yn cael ei gynhyrchu ar gyfer economi Cymru, yn ôl ymchwil ar ran y sianel.

Cwmni Wavehill sydd wedi cwblhau’r ymchwil ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23, er mwyn mesur effaith economaidd a chymdeithasol S4C ar Gymru a thu hwnt.

Mae’r adroddiad yn dangos bod S4C, sy’n darlledu dros 115 awr yr wythnos o raglenni Cymraeg amrywiol, yn cyfrannu mwy i’r economi nag y mae’n ei dderbyn mewn arian cyhoeddus, ac yn cefnogi un ym mhob saith o swyddi yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Am bob £1 o gyllid ffi’r drwydded dderbyniodd S4C, cynhyrchodd y darlledwr £1.53 ar gyfer yr economi yng Nghymru, a £1.77 i’r Deyrnas Unedig.

Mae S4C yn un o’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf cost-effeithlon yn y Deyrnas Unedig, felly, gyda chost yr awr yn sylweddol is na darlledwyr eraill. Ond mae eu gweithgareddau hefyd yn cynhyrchu refeniw treth sy’n fwy na’r arian mae’r sianel yn ei dderbyn.

Am bob £1 o gyllid ffi’r drwydded mae S4C yn ei derbyn, mae £1.02 yn cael ei chynhyrchu mewn treth i’r Trysorlys.

Gyda thros £79m yn cael ei wario, a hanner y cyflenwyr wedi’u lleoli y tu allan i Gaerdydd, mae effaith S4C i’w theimlo ym mhob cwr o Gymru.

Gweithiodd S4C gyda thros 977 o gyflenwyr mewn 47 o sectorau gwahanol yng Nghymru a thu hwnt.

Ers ei sefydlu yn 1982, mae S4C wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r cwmnïau cynhyrchu annibynnol sydd wedi eu sefydlu ledled Cymru.

Yn ystod 2022-23, fe weithiodd S4C gyda 70 o gwmnïau cynhyrchu a rhannu bron i 80% o’i chyllideb i gomisiynu cynnwys.

Roedd dros 98% o’r gyllideb gynnwys honno wedi’i gwario ar gwmnïau cynhyrchu â phencadlys yng Nghymru.

‘Gwneud i bob ceiniog gyfri’

“Mae adroddiad Wavehill yn rhoi trosolwg da o’r gwaith mae S4C yn ei wneud i gefnogi economi Cymru, creu twf o ran y diwydiannau creadigol, a chreu swyddi ar draws y wlad,” meddai Guto Bebb, cadeirydd dros dro S4C.

“Fe gaiff mwy o arian ei gyfeirio yn ôl at y pwrs cyhoeddus gan S4C nag sydd yn cael ei fuddsoddi yn wreiddiol – prawf pendant o’n gallu i wneud i bob ceiniog gyfri.

“Mae S4C yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru, tra hefyd yn llwyddo i gyfrannu’n gymdeithasol a chefnogi ein diwylliant a’n hiaith.

“Rhaid diolch i’n holl bartneriaid ni yn y sector ac i staff S4C am eu holl waith caled a’u creadigrwydd wrth fynd ati i greu’r holl gynnwys gwych ar ein cyfer.”

Dyletswydd gymdeithasol

Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu dyletswydd cymdeithasol S4C fel darlledwr cyhoeddus, ac yn tynnu sylw arbennig at ei rôl fel eiriolwr dros y Gymraeg a’i ymrwymiad i wella cynrychiolaeth ac amrywiaeth ar y sgrin a drwy’r sector.

“Dylem ni gyd fod yn falch o’r rôl y mae S4C yn ei chwarae yn ein bywyd diwylliannol ni fel gwlad,” meddai Sioned Wiliam, Prif Weithredwr dros dro S4C.

“Yn enwedig o gofio ein bod ni fel darlledwr yn creu cyfleon economaidd i sefydlu cwmnïau newydd a chreu swyddi, i dyfu’r sector greadigol ac i fuddsoddi mewn sgiliau a chyfleon i’r gweithlu.

“Mae’r rhaglenni a chynnwys S4C y gwelwn ni ar y sgrîn hefyd yn cael effaith economaidd positif ar bob rhan o Gymru, gan gynnig cyfleoedd sydd yn gwreiddio pobl i’w cymunedau.”

Mae Julia Lopez, Gweinidog y Cyfryngau yn San Steffan, yn dweud bod effaith S4C yn glir.

“Mae’n gweithio gyda channoedd o gyflenwyr, yn cefnogi bron i 2,000 o swyddi, ac yn cynhyrchu miliynau i’r economi yng Nghymru a thu hwnt,” meddai.

“Rydym yn dangos ein hymrwymiad i ddarlledu Cymraeg drwy’r Bil Cyfryngau, gyda mesurau a fydd yn cynorthwyo S4C i adeiladu ar ei llwyddiannau dros y blynyddoedd i ddod.”

‘Effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar economi Cymru’

Mae Hannah Blythyn, Ysgrifennydd Diwydiannau Creadigol Cymru, wedi croesawu canfyddiadau’r adroddiad.

“Mae’n wych gweld pwysigrwydd S4C yn cael ei adlewyrchu mewn effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar economi Cymru,” meddai.

“Mae Cymru Greadigol yn edrych ymlaen at barhau â’i phartneriaeth strategol gydag S4C i gefnogi cyfleoedd newydd i hyfforddeion, talent, cynnwys o ansawdd uchel a hyrwyddo Cymru a’r Gymraeg yn fyd-eang.”