Dyma gyfres newydd lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Y tro yma, Martin Pavey o Aberystwyth sydd wedi ysgrifennu adolygiad o’r rhaglen Am Dro.

Mae Martin wedi bod yn dysgu Cymraeg ers mis Medi 2022. Dechreuodd ddysgu ar Duolingo yn ystod y cyfnod Covid cyn i’r dosbarthiadau ail-ddechrau.


Martin, beth ydy dy hoff raglen ar S4C a pam wyt ti’n ei hoffi?

Am Dro ydy fy hoff raglen ar S4C. Dw i’n hoffi’r rhaglen yma achos dw i’n mwynhau cerdded.

Bob wythnos mae gwahanol bobl yn cystadlu i arwain taith gerdded yn eu hoff ardaloedd o Gymru ac yn darparu cinio. Mae’r goreuon yn ennill £1000!

Dw i’n hoffi gweld pobl o wahanol oedran a chefndir ym mhob rhaglen.

Pam mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?

Mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg achos mae rhai o’r bobl sy’n cerdded yn siaradwyr Cymraeg newydd.

Ydyn nhw’n siarad iaith y de neu’r gogledd?

Maen nhw’n siarad yn iaith y de a’r gogledd.

Faset ti’n awgrymu i bobl eraill wylio’r rhaglen?

Byddwn achos mae’n eich helpu i ddysgu’r iaith Gymraeg, tipyn bach o hanes a diwylliant Cymru, a lleoedd da i fynd am dro. Mae’n hwyl hefyd!

Am Dro! Nos Sul, S4C am 8pm. Mae hefyd ar gael ar S4C Clic 

Bydd cyfres newydd yn dechrau Mehefin 30