Wrth i Golwg cyf. baratoi i ymweld â dinas Wrecsam i rannu cyfleon cyffrous hefo pobol leol ar sut y gallen nhw ymwneud â golwg360 a chylchgrawn Golwg, colofnydd golwg360 sy’n synfyfyrio ar ei siwrne hithau ar hyd y blynyddoedd, o fod yn ddarllenydd i gyhoeddi llythyr, a dod yn golofnydd a gohebydd achlysurol erbyn hyn.
Mae fy nhymor fel is-lywydd cyfle cyfartal yn yr Undeb Myfyrwyr yn dirwyn i ben, a dw i wedi bod yn brysur yn gwneud ceisiadau am swyddi a chyfleon eraill ers meitin. Mae gen i awydd symud ’nôl i Gymru a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhywun yn dweud wrtha i fod adran swyddi cylchgrawn Golwg, felly rwy’n tanysgrifio.
Dw i’n eistedd yn fy fflat, gyda bwrlwm Berry Street swnllyd islaw, a chloch drws y fferyllfa yn tarfu ar fy synfyfyrion bob hyn a hyn. Mae’n anodd coelio’i bod hi’n ryw bedair blynedd bellach ers i mi glirio fy swyddfa yn yr undeb i mewn i’r bocsys sydd dal yn swatio yng nghornel yr ystafell.
Tri chontract byr fel ymchwilydd yn ddiweddarach, a dw i nawr yn fyfyriwr unwaith eto. PhD – pwy fysa wedi meddwl? Ac ar ben hynny, dw i newydd gael cyhoeddi llythyr yng nghylchgrawn Golwg! Llythyr am y syniad o gynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru yma yn Lerpŵl, gan dynnu ar fy nghyfweliad hefo Dafydd Wigley a’r gwaith ymchwil traethawd hir wnes i ar gyfer fy ngradd gyntaf! Dwi’n darllen ac yn ailddarllen fy llythyr gan deimlo’n browd iawn ohonof fi fy hun.
Mae yna erthygl am Tishani Doshi yn Golwg a dw i’n dotio arni. Dw i’n pori’r we am ei barddoniaeth, a dw i’n prynu The Pleasure seekers ac yn ymgolli ynddi yn llwyr. Dw i’n darllen erthygl am Mari Strachan a’i llyfr The earth hums in B-Flat ac yn gwirioni.
Dw i’n sefydlu’r golofn ‘Synfyfyrion llenyddol’ yn Y Clawdd ac yn cysylltu hefo Tishani a Mari i gael rhagor o wybodaeth a lluniau i’w cynnwys amdanyn nhw yn fy ysgrifau. Dw i’n cael cymaint o bleser o’r golofn ac ymatebion pobol lleol iddi.
Mae Golwg yn hysbysebu am golofnwyr i Golwg! Fyswn i wrth fy modd yn llwyr yn cael sgwennu i’r cylchgrawn. Dwi’n gwneud cais ond yn clywed dim.
Dwi’n cyrraedd adref o ‘ngwaith fel darlithydd, ac mae fy ngŵr yn dangos pentwr o gylchgronau Golwg i mi, dal yn eu gorchudd plastig (sydd heddiw’n becynnu amgylcheddol-gyfeillgar); dw i mor brysur y dyddiau hyn, yn darllen adroddiadau sych ac erthyglau cyfnodolion, does fawr o amser nac egni gen i ar ôl i ddarllen Golwg.
Yna daeth fy ngyrfa fel darlithydd i ben. Ar yr un pryd, daeth llythyr am godi pris tanysgrifio Golwg. Ar ôl rhyw bymtheg mlynedd o danysgrifio, dw i’n canslo fy nhanysgrifiad!
Mawr yw’r cynnwrf! Dw i wedi ennill gwobr geiriau 2022 Disability Arts Cymru gyda fy ngherdd ‘Ablaeth Rhemp y Crachach’! Dwi’n pori gwefan golwg360, ond does dim sôn amdanaf yn unman. Wrth ddefnyddio’r allweddair ‘barddoniaeth’, dwi’n dod o hyd i erthygl am y bardd Alan Llwyd, wedi ei sgwennu gan ei wraig, Janice. Felly… mae gwraig Alan Llwyd yn ohebydd? O, efallai ddim – beth yw’r tab ‘Safbwynt’ ‘ma tybed?
Dw i’n pori gwefan golwg360, gan ddarllen yn ofalus. Yikes! Mae’n bosib i unrhyw un sgwennu ar y wefan! A dyna lle ro’n i wedi bod yn mwydro efo’r tîm i sgwennu erthygl am fy nhaith I.D.Hooson – rhaid bo nhw wedi meddwl bo fi’n ddiog… pam ddim ei sgwennu o fy hun?!
Dw i’n creu cyfrif ac yn mentro llwytho fy erthygl gyntaf, am y dryswch dros ffiniau ‘Wrecsam’, ac mae’r golygydd yn ei gyhoeddi! Yn ôl fy arfer, dw i’n mynd bach yn obsessed ac yn sgwennu erthygl newydd bob dydd i’w cynnig… dros y ‘Dolig a phob dim! Does dim tarfu ar fy rwdlan.
Dwi’n cael cynnig colofn fy hun – wir yr! Rhyw 14 mlynedd ers i mi ddechrau trio sgwennu i gylchgrawn Golwg, dwi nawr yn colofnydd i’r wefan. Ac yn ddigon ysmala, dwi’n cael pob math o gyfleon hyfryd trwy gwmni Golwg cyf., gan gynnwys gweithio’n llawrydd fel gohebydd. Dw i bellach wedi gyhoeddi 92 erthygl ar y wefan ers i mi ddod yn frodor ’nôl ar Fedi 23, 2022!
Yna, daw cyfle trwy brosiect ‘Ymbweru Bro’ i annog a chefnogi eraill o Wrecsam i ymwneud â gwahanol adrannau golwg360 – golwg360 ei hun, Bro360, Lingo360 i ddysgwyr, Chwys am y newyddion ar thema chwaraeon.
Pan ddaw Golwg i Wrecsam!
Fel y gwelwch o’r mwydro uchod, damwain llwyr oedd i mi lwyddo, ar ôl sawl blwyddyn o ddyheu, i gael sgwennu colofn i golwg360. Doeddwn i jyst ddim hefo’r ymwybyddiaeth o wefannau a chylchgronau Cymru yn gyffredinol i wybod sut i ddod yn rhan o’r clwb. Ond does dim angen iddi fod fel hyn i weddill trigolion Wrecsam bellach.
Yn ystod mis Ebrill 2024, bydd tîm Bro360 Golwg yn dŵad i Wrecsam i rannu gwybodaeth am eu prosiect ‘Ymbweru Bro’, ac mi fyddan nhw yn trafod syniadau, gan gynnwys creu tudalen fro i ardal Wrecsam, megis BangorFelin, BroWyddfa, a Chaernarfon. Dyma fysa’r wefan fro gyntaf yn y gogledd-ddwyrain.
Mae’r gwefannau bro yn cynnig pob math o gyfleon, gan gynnwys gwobr flynyddol am yr erthygl orau! Ac, wrth gwrs, mi fydd eich erthyglau ar gael i’w darllen gan bobol led-led Cymru… a’r byd tu hwnt!
Felly, os hoffech chi wybod mwy am gyfleoedd posib i ymwneud â chwmni Golwg cyf., beth am ddŵad i’r noson wybodaeth:
Ble: Saith Seren, Wrecsam
Pryd: Nos Fercher, Ebrill 17 am 6.30yh
Ac edrychaf innau ymlaen yn fawr iawn at eich croesawu i’r noson ac i deulu Golwg Cyf! Dowch draw!