Bydd gwaith y bardd I D Hooson yn cael ei ddathlu mewn digwyddiad yn Llyfrgell Llangollen nos fory (nos Fawrth, Medi 13).

Yn ôl Dr Sara Louise Wheeler, bardd lleol fydd yn trafod gwaith I D Hooson (1880-1948) yn y digwyddiad, mae angen gwneud mwy i ddathlu cyfraniad beirdd Cymru.

Mae hi’n 70 mlynedd ers i’r Urdd osod carreg goffa i Isaac Daniel Hooson, a gafodd ei eni yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, ar Lwybr y Panorama ger Llangollen, ac mae’r sgwrs yn gam i geisio sicrhau’r cof am ei waith yn yr ardal.

Dwy gyfrol o gerddi gyhoeddodd I D Hooson, Cerddi a Baledi (1936) a Y Gwin a cherddi eraill, ac wrth sgrifennu pwt am y bardd ar gyfer rhifyn am awduron a beirdd Cymru yn The Dictionary of Literary Biography, roedd Sara Wheeler yn synnu bod cyn lleied o wybodaeth ar gael amdano.

Roedd I D Hooson yn gyfreithiwr yn Wrecsam, ac yn weithgar â’r capel a gwaith yr eisteddfodau.

“Mae ganddo lwyth o gerddi am fywyd yn Rhosllannerchrugog a’r ardaloedd cyfagos,” eglura Sara Wheeler, gafodd ei magu yn Wrecsam ond sydd â chysylltiadau teuluol agos â Rhosllannerchrugog, wrth golwg360.

“Sgrifennodd gerddi am y diwydiant glo, ac am oblygiadau hynny. Sgrifennodd lwythi o gerddi am fywyd natur, yr amgylchfyd, a’r tirlun.

“Yn wir, heb I D Hooson ac Aled Lewis Evans, fyswn i byth wedi gweld fy hun fel bardd, felly fe sy’n rhannol gyfrifol am i mi ymdrechu i fod yn fardd, a da o beth yw cael talu teyrnged iddo rŵan.”

Mae’r digwyddiad yn cael ei noddi gan Ein Tirwedd Darluniadol, prosiect yn edrych ar Ddyffryn Dyfrdwy a Thraphont Pontcysyllte sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Dathlu ei gyfraniad

Yn ddiweddar, arweiniodd Sara Wheeler daith gerdded gan dywys pobol at y garreg goffa, rhannu rhywfaint o hanes I D Hooson ac adrodd rhai o’i gerddi.

“Roedd y ffaith fod y digwyddiad yma wedi bod mor llwyddiannus, a phobol wedi mwynhau, yn sbardun wedyn i gynnal digwyddiad i ddathlu gosod y garreg,” meddai.

Y llyfrynnau’n dathlu gwaith I D Hooson

Mae ei chyflwyniad, y cerddi, a fersiynau Saesneg o’r cerddi, sydd wedi cael eu cyfieithu gan Sara Wheeler, wedi cael eu troi’n llyfryn dwyieithog fydd yn cael eu rhannu i bawb fydd yn mynychu’r digwyddiad.

“Mi fydd llyfrynnau dros ben yn mynd hefo gwybodaeth arall dw i’n ei pharatoi i mewn i becynnau addysg,” meddai.

“Mae angen gwneud mwy i ddathlu cyfraniad ein beirdd – ond mi fyswn i yn dweud hynny byswn, fel bardd!

“Ond o ddifri, oes. Mae gwaith Hooson yn arbennig o dda ac mae o’n mynd i’r afael efo materion o bwys, megis llosgi dan reolaeth a rheoli cefn gwlad yn gyffredinol, a’r pyllau glo, perchnogaeth y tir gan yr uchelwyr, ac am fyd natur.

“Pan es i ati i ddechrau trefnu’r daith gerdded, es i mewn i’r ganolfan wybodaeth a thwristiaeth yn Llangollen i ymofyn map.

“Esboniais beth oeddwn yn ei wneud ac mi wnaethon nhw ddweud, yn Saesneg, eu bod nhw yn cael llawer o gerddwyr yn dod i holi beth oedd y garreg, a phwy oedd Hooson.

“Roedden nhw wedi mynd ati i ymchwilio, ond mae yna hyd yn oed llai o wybodaeth amdano yn Saesneg, ac felly yr unig beth oedden nhw wedi ffeindio oedd ei fod wedi cyfieithu cerdd Robert Browning, ‘The Pied Piper of Hamlyn’, i’r Gymraeg, sef ‘Y Fantell Fraith. Ac roedden nhw yn darparu’r wybodaeth hon.

“Ond roeddwn yn ei weld yn reit drist taw dyma yw gwaddol I D Hooson yn yr ardal hon erbyn hyn, trwy gyfrwng y Saesneg beth bynnag, er iddo fod yn fardd mor weithgar a gwych.

“Felly dyma fwrw ati i greu’r digwyddiadau gorau y medraf, a chreu llyfryn a deunydd at y dyfodol, gan obeithio bydd plant a phobol ifanc y fro yn cael eu hysbrydoli ac yn cael budd ohoni.”

  • Bydd y sgwrs yn cael ei chynnal nos fory, Medi 13 rhwng 6yh ac 8yh, ac mae gofyn i bobol archebu lle drwy gysylltu â llyfrgell.llangollen@sirddinbych.gov.uk