Bydd Cymdeithas Waldo yn cynnal ‘Waldothon’ gyda’r bwriad o godi arian at y gymdeithas drwy noddi darlleniadau o’i holl gerddi.

Nod y gymdeithas ydy diogelu’r cof am waith a bywyd y bardd Waldo Williams a hyrwyddo cyfraniad y bardd o Sir Benfro at lên a diwylliant Cymru drwy ddehongli a chreu ymwybyddiaeth ddyfnach o’i waith yn lleol a chenedlaethol hefyd.

Mae 317 o gerddi Cymraeg a 27 o gerddi Saesneg yng nghyfrol Alan Llwyd a Robert Rhys, Cerddi Waldo 1922-1970, sy’n gwneud cyfanswm o 344.

Bydd 20 o bobol ar draws Cymru yn arwain grwpiau i ddarllen tua 20 o gerddi Waldo yr un, gyda gwahoddiad i bobol ledled y wlad noddi’r darlleniadau am £5 fesul cerdd.

“Mae boddhad i’w gael bob amser wrth droi at gerddi Waldo,” meddai’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.

“Pleser ychwanegol yw eu darllen yn uchel, gan brofi’r rhythmau pwerus a sain esmwyth y geiriau.

“Ar ben hynny, bydd yr achlysur yn codi arian i gadw’r cof am y bardd yn agos at glust ei wlad. Bydd yn brofiad i’w werthfawrogi ar sawl cyfri!”

‘At bwy y trown?’

“Diolch i Mererid Hopwood ac Alun Ifans, Maenclochog, am drefnu ‘Waldothon’ noddedig gyda deunaw o bobl ledled Cymru yn darllen cerddi Waldo ar y 1af o Hydref,” meddai Emyr Llywelyn, un o lywyddion anrhydeddus Cymdeithas Waldo.

“At bwy y trown pan mae’r ‘byd yn chwâl’ am ysbrydoliaeth?

“At bwy ond Waldo – â’i weledigaeth am frawdgarwch dyn, am heddwch a phwysigrwydd iaith a bro.”

Bydd y ‘Waldothon’ yn dechrau am 10yb ar Hydref 1, sef y diwrnod ar ôl Diwrnod Waldo.