“Dydy comedi ddim wedi’i ganslo”, medd gwefan gomedi yn dilyn marwolaeth Elizabeth II, Brenhines Lloegr.
Gyda chyfnod o alaru’n dechrau ledled y Deyrnas Unedig, mae cryn ddyfalu ar hyn o bryd ynghylch pa ddigwyddiadau, gweithgareddau a busnesau fydd yn cau dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf.
Mae’n ymddangos bod gigs yn cael eu canslo’n unigol gan drefnwyr a lleoliadau, ond mae gwefan Chortle yn dweud nad yw’n benderfyniad gan y diwydiant cyfan yn dilyn dryswch ers y cyhoeddiad gan Balas Buckingham neithiwr (nos Iau, Medi 9).
Ac mae rhai ar y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn cwestiynu pa mor briodol yw cynnal gigs comedi ar adeg o bwysigrwydd cenedlaethol mawr.
Yn ôl Chortle, roedd si ar led na fyddai hawl cynnal comedi yn ystod y 12 diwrnod o alaru sy’n dechrau heddiw (dydd Gwener, Medi 9), ac mae’n ymddangos bod hynny’n deillio o wybodaeth gan y BBC gafodd ei rhyddhau ddegawd yn ôl wrth i fanylion Operation London Bridge ddod i’r amlwg.
Operation London Bridge yw’r cynllun ar gyfer adeg marwolaeth Brenhines Lloegr pe bai hi’n marw yn Lloegr ond yn dilyn ei marwolaeth yn Balmoral yn yr Alban, chafodd y cynllun hwnnw mo’i weithredu.
Mewn dogfen gan y BBC, roedd sôn y byddai holl gomedi’r sianel yn cael ei ohirio yn ystod cyfnod o alaru cyn yr angladd, a’r disgwyl yw y bydd y gwasanaeth hwnnw’n cael ei gynnal ar Fedi 19.
Ond dim ond i’r BBC mae’r polisi hwnnw’n berthnasol, ac mae rhwydd hynt i ddarlledwyr, busnesau ac unigolion eraill benderfynu drostyn nhw eu hunain.
Un o’r lleoliadau oedd wedi canslo sioe neithiwr yw clwb Glee yng Nghaerdydd, lle’r oedd disgwyl i’r sioe ‘Seed Talks’ gael ei chynnal, ac maen nhw’n dweud y byddan nhw’n cysylltu â’r rhai oedd â thocynnau. Ond does dim cyhoeddiad eto ynghylch dyddiad newydd na chwaith a fydd sioeau eraill yn mynd yn eu blaenau.